Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn mynd i Ŵyl Genomeg a Bioddata 2025!

Rhwng 29 a 30 Ionawr 2025, bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn arddangos yn yr Ŵyl Genomeg a Bioddata yn ExCeL Llundain!

Fel digwyddiad mwyaf a mwyaf cyffrous y DU ar gyfer y gymuned genomeg a bioddata, mae’r ŵyl yn ymgasgliad deinamig o arbenigwyr o bob rhan o’r byd. Gall mynychwyr ddisgwyl amrywiaeth eang o sgyrsiau, trafodaethau panel, a gweithdai yn canolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf yn y maes.

Bydd GPW yn arddangos yn stondin 164, ochr yn ochr â’n partneriaid allweddol, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan, Parc Geneteg Cymru, ac Uned Genomeg Pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn llawn cyffro i groesawu ymwelwyr i’n stondin i rannu gyda chi y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud o fewn cymuned genomeg Cymru a dweud mwy wrthych am yr effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar boblogaeth Cymru a thu hwnt.

Bydd hefyd sawl arbenigwr diwydiant o Gymru yn rhoi sgyrsiau yn y digwyddiad, gan rannu eu mewnwelediad i’r datblygiadau diweddaraf o fewn y gymuned genomeg.

Diwrnod Un:

  •  Bydd Sophie Harding, Arweinydd Ffarmacogenomeg Cymru Gyfan, yn siarad am Ffarmacogenomeg yn GIG Cymru o 3:05 PM – 3:35 PM ar y Llwyfan Trawsnewid Gofal Iechyd.

Diwrnod Dau:

  • Bydd Joseph Halstead, Biowybodegydd Arweiniol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn trafod Defnyddio Modelau Iaith Mawr wrth Ddehongli Amrywiolion o 12.10 PM – 12.50 PM ar y Llwyfan Trawsnewid Gofal Iechyd.
  •  Bydd Nicholas O’Sullivan, Rheolwr Rhaglen Partneriaeth Genomeg Cymru, ynghyd â Kevin Etheridge, Eiriolwr Cleifion ac Ymgyrchydd ac Aelod o Fwrdd Seinio’r Cleifion a’r Cyhoedd Partneriaeth Genomeg Cymru, yn trafod sut mae Cydgynhyrchu yn ganolog i’r dull partneriaeth yng Nghymru o 4: 05 PM – 4:35 PM ar y Llwyfan Pyramid.
  •  Bydd Gerald Ncube, Pensaer Digidol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn siarad am Glasbrint Genomeg Digidol ar gyfer Cymru o 2:05 PM – 2:35 PM ar y Llwyfan Bioddata.
  •  Bydd William Griffiths, Athro mewn Sbectrometreg Màs, Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno sgwrs am Lipidomeg a Metabolomeg ar gyfer Diagnosis o Glefydau Prin o 12:20 PM – 12:50 PM ar y Llwyfan Epigeneteg ac Omeg sy’n Dod i’r Amlwg.
  • Mae Leon Wong, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddor Iechyd ar gyfer Llywodraeth Cym, yn cymryd rhan mewn Panel, Genomeg y DU – O Nerth i Nerth, ochr yn ochr ag arbenigwyr eraill o bob rhan o’r DU, 4:05 – 5:05pm, ar y Prif Lwyfan
 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a sut i gofrestru ar Wefan yr Ŵyl Genomeg a Bioddata.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading