Profion genetig uniongyrchol i’r cwsmer (DTC)

Beth yw profi DTC?

Profion genetig uniongyrchol i’r cwsmer (DTC) yw math o brawf genetig y gall pobl ei brynu’n uniongyrchol gan gwmnïau preifat heb weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Mae’r rhain yn cynnwys profion sydd yn:

  • Darparu gwybodaeth am eich llinach
    • Gwneir hyn drwy edrych ar farcwyr yn eich cod genetig sy’n rhoi cliwiau bras am y lle y tarddodd eich teulu’n wreiddiol.
  • Darparu gwybodaeth am risgiau iechyd
    • Mae’r profion hyn yn rhagweld y tebygolrwydd o ddatblygu cyflyrau penodol fel clefyd y galon, dementia a chanser y frest.

Oherwydd y cynnydd yn y nifer o brofion DTC, mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) yn gweld cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaeth gan y rheini sy’n ceisio eglurder diagnostig dilynol.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng profion genetig y GIG a phrofion genetig DTC?

Prawf genetig y GIG Prawf genetig DTC
Y diben yw gwneud diagnosis
Y diben yw rhoi gwybodaeth am risgiau iechyd, ond nid gwneud diagnosis
Mae profi genetig yn cyfeirio at eich cyflwr neu broblemau iechyd penodol fel y'u hasesir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae eich hanes meddygol, hanes eich teulu a ffactorau ffordd o fyw yn allweddol wrth ddewis y prawf iawn i chi.
Nid yw profion genetig DTC yn benodol ar eich cyfer chi ac felly nid ydynt yn ystyried eich hanes meddygol, hanes eich teulu na ffactorau ffordd o fyw eraill.
Mae ymgynghori genetig cyn ac ar ôl y prawf ar gael fel mater o drefn i'ch helpu i ddeall eich prawf genetig ac unrhyw ganlyniad.
Nid oes ymgynghori genetig fel arfer ar gael i'ch helpu i ddeall eich prawf genetig neu unrhyw ganlyniad.
Caiff profi genetig ei dargedu i edrych yn fanwl ar y rhan o'ch cod genetig sy'n berthnasol i'ch cyflwr neu broblemau iechyd penodol. Caiff unrhyw ganlyniad genetig ei ddehongli'n ofalus, gan ystyried eich hanes meddygol personol.
Nid yw'r rhan fwyaf o brofion DTC yn edrych ar y cod genetig yn fanwl. Mae'r profion hyn yn edrych am wahaniaethau penodol yn y cod genetig a elwir yn Bolymorffedd Niwcleotidau Sengl neu SNP. Mae rhywfaint o ymchwil wedi dangos bod cyfuniadau penodol o SNPau yn gysylltiedig â datblygu rhai cyflyrau iechyd.
Cynhelir profi genetig mewn labordy GIG achrededig
Ni chynhelir profi genetig mewn labordy GIG achrededig

Beth yw safbwynt AWMGS ar brofi genetig DTC?

Rydym ni’n gwbl gefnogol i ymdrechion unigol i fod yn fwy ymwybodol o iechyd a mabwysiadu gwell ffordd o fyw. Mewn rhai ffyrdd, mae profion genetig DTC wedi codi ymwybyddiaeth o Eneteg a’i dylanwad ar iechyd.

Wrth drin profion DTC, mae’n bwysig eich bod yn gwybod yn union beth mae’r prawf rydych chi’n ei brynu’n ei wneud. Mae rhai profion DTC yn edrych ar SNPau neu newidiadau genetig yn gysylltiedig â risg uwch o ganserau penodol. Gallai’r canlyniadau hyn fod â goblygiadau sylweddol i chi neu aelodau eraill o’ch teulu. Fodd bynnag mae’r canlyniadau hyn wedi bod yn anghywir mewn nifer o achosion. Gallai eich prawf DTC achosi llawer o bryder diangen yn yr amgylchiadau hynny. Yn yr un modd, nid yw cael canlyniad ‘normal’ yn golygu nad oes gennych risg uwch o ganserau penodol. Mae hyn am nad yw’r profion yn edrych yn benodol ar y rhannau perthnasol o’r cod genetig am y wybodaeth hon.

Os ydych chi’n pryderu am eich hanes teuluol o glefyd (yn cynnwys canser), neu os ydych chi’n teimlo bod gennych gyflwr Genetig, trafodwch hyn gyda’ch meddyg teulu a all eich cyfeirio at eich gwasanaeth Geneteg Glinigol lleol os yw’n briodol.

Os ydych chi’n dewis cael prawf DTC, dylech wneud yn siŵr eich bod yn deall beth fydd y cwmni’n ei wneud gyda’ch data. Gallai rhai cwmnïau storio, gwerthu neu gynnal ymchwil ar eich data genetig. Dylech hefyd fod yn ymwybodol na all Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan ddehongli unrhyw ddata craidd na chanlyniadau a geir o brawf genetig DTC.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Cynghrair Geneteg a gwefan Cymdeithas y Nyrsys a Chwnselwyr Genetig.

Gweler hefyd y sgwrs a’r erthygl o’r British Medical Journal: https://www.bmj.com/content/367/bmj.l5688