Cynllun y Gweithlu Strategol ar gyfer Genome

Mewn ymateb i amcanion Cynllun Cyflawni Cymru ar Genomeg, mae Partneriaeth Genomeg Cymru wedi gweithio ochr yn ochr ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i ddatblygu Cynllun y Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg.

Mae’r cynllun yn amlinellu map ffordd ar gyfer y tair blynedd nesaf, sy’n cynnwys 33 o gamau gweithredu i holl gydweithwyr GIG Cymru wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd genomeg, waeth beth yw eu maes ymarfer clinigol. Bydd y cynllun yn mynd i’r afael â bylchau sgiliau a gwybodaeth i sicrhau bod poblogaeth Cymru yn elwa ar effaith lawn meddygaeth genomeg.

Darganfyddwch fwy neu darllenwch Gynllun y Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg yn llawn yma.