Cynllun Cyflawni Genomeg Pathogen

Genomeg pathogenau yw’r astudiaeth o ddeunydd genetig firysau, bacteria, a microbau eraill i ddeall sut maent yn lledaenu, yn esblygu, ac yn achosi clefydau. Yn GIG Cymru, mae hyn yn helpu wrth olrhain brigiadau o achosion a gwella ymatebion iechyd y cyhoedd.

Darperir gwasanaethau clinigol ac iechyd y cyhoedd genomeg pathogen gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio fel rhan annatod o Bartneriaeth Genomeg Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflawni hyn drwy’r Uned Genomeg Pathogenau (PenGU), labordy arbenigol yng Nghaerdydd. Mae PenGU yn dadansoddi samplau i ganfod mwtaniadau, monitro ymwrthedd i wrthfiotigau, a chefnogi ymchwilio i frigiadau o achosion. Mae’r gwasanaeth hwn yn chwarae rhan hanfodol yn rheoli clefydau heintus fel COVID-19, twbercwlosis, a HIV, gan alluogi clinigwyr a thimau iechyd y cyhoedd i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i fygythiadau sy’n dod i’r amlwg.

I amlinellu eu strategaeth barhaus, mae ICC wedi creu Cynllun Cyflawni Genomeg Pathogenau newydd ar gyfer 2026–2029, sy’n datblygu’r gwaith a sefydlwyd gan Gynllun Cyflawni Genomeg cyfredol Cymru (2022–2025).

Mae’r cynllun yn uchelgeisiol ac yn cwmpasu un ar ddeg o amcanion a gweithgareddau o dan ddau gategori eang o alluogwyr. Mae camau gweithredu penodol yn cael eu hamlinellu i’w cyflawni, yn amodol ar gyllid yn y dyfodol.

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Gan fod y cynllun yn cwmpasu llawer o feysydd pwysig ac yn berthnasol i sawl cynulleidfa, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwahodd unigolion i gymryd rhan mewn proses ymgynghori, trwy ddarparu adborth ar set o Gamau Gweithredu drafft o’r cynllun. Ar ôl derbyn yr holl adborth, bydd ICC yn ei ddefnyddio i sicrhau bod fersiwn derfynol y cynllun yn adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion y rhanddeiliaid amrywiol dan sylw yn gywir.

Darllenwch y camau gweithredu drafft

Crynodeb o’r Cynllun Cyflwyni

Ffurflen Adborth