Cynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg
Mewn ymateb i un o brif nodau Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru, mae Grŵp Ffarmacogenomeg Cenedlaethol Cymru (GFfCC) yn datblygu cynllun cyflawni ffarmacogenomeg.
Mae ffarmacogenomeg, yr astudiaeth o sut mae amrywiadau genetig yn dylanwadu ar ymateb i gyffuriau, yn barod i drawsnewid dyfodol darparu gofal iechyd yn sylweddol gan ein helpu i deilwra therapïau cyffuriau i sicrhau bod unigolion yn derbyn y driniaeth fwyaf effeithiol, wrth leihau’r risg o adweithiau niweidiol i gyffuriau.
Un o brif sbardunau ar gyfer datblygu’r cynllun yw sicrhau ein bod yn gallu ymateb i’r gofynion a nodir yn y rhaglenni cyflawni’r DU a Chymru, sy’n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu gwasanaeth ffarmacogenomeg y GIG ar gyfer Cymru.
Ynglŷn â’r Cynllun
Gydag ehangu ffarmacogenomeg, nod y cynllun hwn yw:
- Datblygu camau gweithredu clir ar gyfer mabwysiadu ffarmacogenomeg o fewn ymarfer clinigol arferol
- Sefydlu rhwydweithiau a strwythurau llywodraethu
- Darparu map ffordd i adeiladu seilwaith, gan gynnwys:
- Technoleg ddigidol
- Ymchwil ac arloesi
- Datblygu’r gweithlu
- Llwybrau clinigol
Bydd y cynllun cyflawni 3 blynedd yn mynd i’r afael â datblygu gwasanaethau ffarmacogenomeg ar draws gofal cynradd, eilaidd a chymunedol.
Mae datganiad gweledigaeth ar gyfer y Cynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg bellach ar gael. Nod datblygu’r cynllun hwn yw amlinellu cyfres o gamau gweithredu y byddwn yn eu rhoi ar waith mewn partneriaeth dros y tair blynedd nesaf.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar y camau gweithredu allweddol arfaethedig a fydd yn ffurfio sylfeini’r Cynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi ymgysylltu’n sylweddol â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, y DU, a chynrychiolwyr cleifion a’r cyhoedd. Rydym wedi cynnal ymchwil helaeth ac wedi adolygu gwybodaeth sydd ar gael. Mae’r holl weithgaredd hwn wedi llywio a siapio’r camau gweithredu arfaethedig ac wedi darparu golwg glir ar y blaenoriaethau y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw dros y tair blynedd nesaf.
Rydym am nawr ‘brofi’ y camau drafft yn ffurfiol gyda rhanddeiliaid i sicrhau ein bod wedi nodi atebion a fydd yn cael yr effaith fwyaf.
Gellir dod o hyd i fanylion am y camau arfaethedig yma
Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg trwy gydol mis Gorffennaf. Gallwch ddarparu adborth ar y camau gweithredu trwy gwblhau arolwg byr neu anfon sylwadau i npgg@wales.nhs.uk