Materion Ymchwil: Cynllun ymchwil strategol ar gyfer genomeg yng Nghymru

Mae ymchwil genomeg yn ein helpu i ddeall achosion genetig clefydau, gan alluogi diagnosis cynharach, triniaethau wedi’u targedu, ac ataliad mwy effeithiol. Mae hefyd yn gyrru arloesedd ar draws y sectorau gofal iechyd a gwyddorau bywyd, gan wella canlyniadau i gleifion wrth greu cyfleoedd economaidd a gwyddonol sylweddol.

Mae gan Gymru alluoedd ymchwil genomeg cryf mewn nifer o feysydd, gan gynnwys iechyd meddwl, dementia, canser, clefydau prin a genomeg pathogenau, yn ogystal ag arbenigedd trawsbynciol mewn genomeg swyddogaethol a ffarmacogenomeg.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn gweithio gyda Phartneriaeth Genomeg Cymru a phartneriaid allweddol ym maes gofal iechyd, y byd academaidd a pholisi strategol i ddatblygu cynllun ymchwil strategol ar gyfer genomeg yng Nghymru a fydd yn:

  •  Cryfhau ac yn ehangu galluoedd ymchwil genomeg craidd yng Nghymru
  • Datblygu seilwaith a systemau digidol
  • Datblygu gweithlu genomeg medrus, cynaliadwy a     chydweithredol
  • Cefnogi ymchwil drosiadol
  • Sicrhau ymchwil genomeg foesegol, gynhwysol, sy’n canolbwyntio ar y claf

Sut y cyrhaeddon ni yma

Roedd Cynllun Cyflawni Genomeg Cymru (2022-2025) yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu Strategaeth Ymchwil Genomeg a fyddai’n cefnogi ymchwil genomeg mewn sefydliadau addysg uwch, byrddau iechyd, a chanolfannau rhagoriaeth eraill yng Nghymru.

Er mwyn dechrau datblygu strategaeth ymchwil, ffurfiwyd grŵp cynghori allanol i gynnal adolygiad o’r amgylchedd ymchwil genomeg presennol yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys diffinio cylch gwaith a chwmpas yr ymchwil ar draws y biblinell drosiadol, ymgynghori â phartneriaid a’r cyhoedd drwy Fwrdd Seinio Partneriaeth Genomeg Cymru ac adolygu gofynion parhaus ymchwil genomeg yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at strategaeth sy’n nodi pedwar amcan strategol ynghyd â chamau cysylltiedig i’w datblygu dros y pum mlynedd nesaf.

Sut y byddwn yn cyflawni’r cynllun hwn

Bydd Arweinydd Ymchwil newydd ei benodi yn gweithio ochr yn ochr â Grŵp Ymchwil Partneriaeth Genomeg Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu a rhoi gweithgareddau ar waith i wireddu’r amcanion strategol yn y cynllun hwn. Bydd hyn yn gofyn am ddatblygu partneriaethau strategol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i ddenu cyfleoedd ar gyfer cyllid ymchwil a gwella cyfleoedd ymchwil.

Sut olwg fydd ar lwyddiant?

Uchelgais y strategaeth hon yw cyflawni manteision sylweddol i’r gymuned ymchwil yng Nghymru. Ein hamcanion yw:

  • Amcan un: darparu fframwaith arweinyddiaeth unedig a chredadwy ar draws y GIG-academia-diwydiant
  • Amcan dau: cymuned ymchwil genomeg yng Nghymru sy’n weladwy ac sy’n tyfu
  • Amcan tri: sylfeini cydsyniad a rhannu data y gellir ymddiried ynddynt a’u hehangu
  • Amcan pedwar: cyfrifiadu, dadansoddeg a gweithlu addas at y diben i fanteisio ar ddata ar raddfa

Darllenwch y cynllun