Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn cydweithio i fanteisio ar botensial genomeg er mwyn gwella iechyd, lles a ffyniant pobl Cymru.
Mae technolegau genetig a genomig newydd yn caniatáu i ni ddatblygu dealltwriaeth fanylach o lawer o’r cysylltiad rhwng ein genynnau ac iechyd.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cydnabyddiaeth ryngwladol bod potensial gan y technolegau hyn i chwyldroi meddygaeth ac iechyd y cyhoedd.
Mae cysylltiadau â gweithgareddau ymchwil a diwydiant yn bwysicach nag erioed o’r blaen, a rhaid cydosod yr ecosystem ehangach ar gyfer genomeg i wneud y mwyaf o’r buddion i iechyd a’r economi yng Nghymru.
Bydd Partneriaeth Genomeg Cymru, ynghyd â’i , phartneriaid a rhanddeiliaid yn sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni ym maes geneteg a genomeg, gan gynorthwyo â darparu meddygaeth fanwl yn GIG Cymru.
Cyd-gynhyrchu
Dangos ymrwymiad i weithio mewn modd agored a thryloyw â chleifion a’r cyhoedd yng Nghymru, gan ddefnyddio eu profiadau ar y cyd i lunio ac ychwanegu gwerth at waith y Bartneriaeth Genomeg a gwasanaethau genomeg yng Nghymru yn y dyfodol
Gwasanaethau Clinigol a Lab
Datblygu gwasanaethau genomeg meddygol ac iechyd y cyhoedd sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol gyda chydweithrediad cryf â’r GIG ac academia i sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau genomeg sy’n arwain y sector i ddinasyddion Cymru
Ymchwil ac Arloesi
Creu amgylchedd ymchwil genomeg sy’n gallu cystadlu ar lefel ryngwladol drwy fuddsoddi mewn technolegau ymchwil genomeg a phlatfformau Meddygaeth Fanwl, seilweithiau cydweithredol a phortffolios hyfforddi uchelgeisiol
Gweithlu
Meithrin gweithlu brwd a hyfedr a all wasanaethu fel llysgenhadon i genomeg yn y GIG, gan sicrhau bod ein gwasanaethau’n esblygu’n gyflym – yn gallu cynyddu eu trwybwn ac ar yr un pryd bod yn ddibynadwy, cyfartal a blaengar
Partneriaethau Strategol
Sefydlu Cymru fel cartref blaengar, cydweithredol a dibynadwy i ddatblygu busnesau, a hyrwyddo gwasanaethau genomeg yng Nghymru i ddenu’r cyfleoedd partneriaeth gorau
Partneriaeth Genomeg Cymru © 2020