Cynllun Cyflawni Cymru ar Genomeg
Cynllun Cyflawni Cymru ar Genomeg (.PDF)
Mae'r Cynllun Cyflawni Genomeg llawn gan Lywodraeth Cymru, ar gael i'w weld, ei lawrlwytho neu ei argraffu.
“Mae Cynllun Cyflawni Cymru ar Genomeg 2022-25 yn manylu ar sut bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, er mwyn harneisio datblygiadau o ran deall a chymhwyso genomeg i drawsnewid strategaeth iechyd y cyhoedd a’r dull o ddarparu gofal.
Byddwn ni’n datblygu sgiliau ein gweithlu presennol fel y gall cenhedlaeth fodern o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ddod i’r amlwg gyda’r galluoedd i fanteisio ar y cyfle i bobl Cymru.
Bydd dull cydgysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ein galluogi i greu a manteisio ar gyfleoedd ar draws gofal iechyd, ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r cynllun i gyflawni ein huchelgeisiau i wella iechyd, lles a ffyniant.”
- Suzanne Rankin, Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer GPW ac Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Crynodeb
Gan gydnabod ein dull gweithredu ein hunain yng Nghymru, caiff ein cynllun cyflawni ei rannu i’r pedair thema allweddol ganlynol:
Mae sylfeini cryf wedi’u gosod ar gyfer cynnwys y cleifion a’r cyhoedd a chyd-gynhyrchu, gyda dull tair haen wedi’i sefydlu i sicrhau ystod eang o gyfleoedd i gleifion a’r cyhoedd weithio gyda ni i gryfhau ansawdd allbwn genomeg.
Ein huchelgais yw datblygu ymhellach ein dull o gynnwys pobl a’i ymgorffori fel un o swyddogaethau craidd gwasanaethau genomeg a gweithgarwch ymchwil yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod na all unrhyw ddatblygiad mewn technoleg neu offer newydd ar ei ben ei hun fod o fudd i gleifion, ac mae buddsoddi yn y gweithlu yn hanfodol. Mae hyn yn arbennig o hanfodol i grwpiau’r gweithlu lle mae prinder cenedlaethol. Bydd ymgysylltu a chefnogaeth gan uwch arweinwyr ar draws y GIG yn hanfodol i’n galluogi i rymuso ac uwchsgilio’r gweithlu gofal iechyd nad ydynt yn ymwneud â genomeg. Mae hyn yn hanfodol i integreiddio genomeg i lwybrau’r claf lle mae gofal clinigol yn cael ei wella.
Mae meddygaeth genomeg ddynol ar gyfer clefydau prin, canser a ffarmacogeneteg yn faes sy’n esblygu’n gyflym gyda’r gallu i drawsnewid canlyniadau gofal iechyd drwy wella dulliau atal, diagnosis, a thrin clefydau. Bydd angen dull integredig ar ddatblygiadau cyflym mewn triniaethau sy’n defnyddio therapi genynnau, lle bydd genomeg yn sail i driniaethau. Bydd meddygaeth wedi’i phersonoli yn agwedd annatod a hanfodol ar ofal iechyd prif ffrwd y dyfodol yn y GIG yng Nghymru. Bydd yn ymgorffori ac yn cofleidio’r diweddaraf mewn datblygiadau genomig gan ddod â’r budd mwyaf i’n cleifion.
Byddwn ni’n sefydlu system iechyd cyhoeddus gydweithredol yng Nghymru sy’n defnyddio genomeg i gryfhau llwybrau sgrinio, diagnostig a gofal ymhlith y rheiny sydd â risg uchel. Mae’r ffaith bod mwy o ddata genomig ar gael yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer gofal iechyd manwl ac iechyd cyhoeddus manwl, lle gellir creu mewnwelediadau ar lefel y boblogaeth ar gyfer buddiannau lefel y boblogaeth a lefel cleifion.
Byddwn ni hefyd yn galluogi ac yn annog iechyd meddwl a lles da gydol oes drwy ragweld a gweithredu i wella canlyniadau ymhlith y rhai sydd â risg genomig uwch o iechyd meddwl gwael ac iechyd corfforol gwael cysylltiedig.
Mae genomeg pathogenau’n trawsnewid sut rydyn ni’n darparu gofal iechyd yng Nghymru, o’r cleifion i’r boblogaeth. Mae’n ein galluogi i gynnig ffordd newydd o weithio – Iechyd y Cyhoedd Manwl, gan integreiddio, mewn amser real, y broses o ddiagnosio a nodweddu pathogenau sy’n heintio unigolion, gydag ymdrechion i atal clefydau a rheoli achosion ar lefel poblogaeth.
Mae ymchwil ac arloesi yn y maes genomeg a meddygaeth fanwl yn datblygu ar raddfa a chyflymder mawr, ledled y byd. Mae ymchwil ac arloesi genomeg yng Nghymru wedi sefydlu cryfderau mewn canser, dementia, iechyd meddwl, clefydau prin, a genomeg pathogenau. Mae datblygiadau mwy diweddar a pharhaus yn cynnwys biopsi hylif, dilyniannu hir-ddarllen, ffarmacogenomeg, genomeg swyddogaethol (trawsgrifiadau un gell a gofodol, ac epigenomeg) a sgrinio babanod newydd-anedig. Dyma feysydd sydd yn ennyn diddordeb a buddsoddiad sylweddol lle mae gan Gymru’r potensial i ddod i’r amlwg fel arweinydd y DU ac yn fyd-eang. Bydd hyn yn cynnwys darparu treialon clinigol.
Er mwyn gwireddu’r uchelgeisiau o fewn y Cynllun Cyflawni Genomeg hwn, o ymchwil hyd at ddarparu gwasanaethau clinigol, mae sawl galluogwr allweddol sy’n sylfaenol i ddarparu’r sylfeini angenrheidiol. Mae’r rhain yn cynnwys isadeiledd, galluoedd digidol, partneriaethau masnachol, a chyllid.