Gwybodaeth am Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan

Gwybodaeth am Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan

Mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod ar waith ers dros 30 mlynedd.  Mae datblygiadau mewn technoleg wedi golygu bod dealltwriaeth newydd o’r genom dynol erbyn hyn.

Mae AWMGS yn cynnig gwasanaethau genetig arbenigol i unigolion a theuluoedd sydd â chyflyrau genetig prin, neu sy’n pryderu amdanynt. Mae geneteg glinigol a geneteg labordy yn ffurfio’r gwasanaeth a, gyda’i gilydd, darparant wasanaethau geneteg feddygol i boblogaeth Cymru.

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n rhoi cartref i AWMGS, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, y Mynydd Bychan, Caerdydd.

 

Mae genetegwyr ymgynghorol arbenigol, a chwnselwyr geneteg yn darparu’r gwasanaethau geneteg ym mhob prif ysbyty ledled Cymru. Mae’r labordy’n cael samplau i’w dadansoddi o bob cwr o Gymru.

 

Ers blynyddoedd lawer, mae geneteg wedi bod yn wasanaeth arbenigol, yn ymdrin â chlefydau genetig prin fel ffibrosis systig, canser etifeddol y fron, clefyd Huntington a nychdod cyhyrol Duchenne.

 

Dros y deng mlynedd diwethaf, bu datblygiadau arwyddocaol mewn geneteg yn sgil dilyniannu’r genom dynol.  Erbyn hyn, gellir dilyniannu DNA cyfan unigolyn, yn sgil newidiadau mewn technoleg.

Cyswllt