Canolfan Iechyd Genomig Cymru

Cartref Newydd Genomeg yng Nghymru

Yn agor yn swyddogol o fis Tachwedd 2023, bydd Canolfan Iechyd Genomig Cymru yng Nghaerdydd yn gwasanaethu fel conglfaen ar gyfer uchelgais meddygaeth fanwl Cymru. Gan ddwyn ynghyd Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS), yr Uned Genomeg Pathogen (rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru), a Pharc Geneteg Cymru, mae’r cyfleuster o’r radd flaenaf hwn yn addo creu canolfan ragoriaeth ar gyfer gwasanaethau genomig ledled Cymru. 

 Gyda’r GIG yn ganolog iddo, mae’r cyfleuster wedi’i gynllunio ar y cyd gan aelodau o staff, cleifion a’r cyhoedd fel amgylchedd cydgynhyrchiol sy’n cyfuno diwydiant a’r byd academaidd. Bydd y gofod yn cefnogi’r holl bartneriaid i lywio’r dirwedd genomeg sy’n datblygu’n gyflym, tra ar yr un pryd yn darparu amgylchedd tawel, croesawgar i gleifion a’u teuluoedd. 

Mae’r datblygiad newydd, sy’n cynnwys adnewyddu adeilad presennol ym Mharc Gwyddorau Bywyd Caerdydd Edge, yn cyfuno labordai cyfyngiant microbiolegol ac ymchwil o’r radd flaenaf, mannau clinigol, cyfleusterau seminar, swyddfeydd modern a meysydd sy’n hybu lles staff. Yma, rydym yn gobeithio chwyldroi llwybrau gofal a thriniaeth cleifion a gweld mai Cymru fydd y Genedl gyntaf yn y DU i ddangos y gall genomeg elwa ar integreiddio gwirioneddol; adnoddau cyfunol, rhannu gwybodaeth ac arbenigedd. 

Gwasanaethau Labordy a Chlinigol

Bydd y ganolfan yn dod â nifer o amgylcheddau labordy a chlinigol pwrpasol ynghyd. 

Bydd cydleoli AWMGS, PenGU a Pharc Geneteg Cymru yn meithrin cydweithio agosach ac integreiddio di-dor gwasanaethau. Bydd hyn yn symleiddio profion clinigol a labordy, monitro pathogenau, ac ymdrechion ymchwil genomig, gan fod o fudd i gleifion yn y pen draw. 

Bydd y cyfleuster newydd hefyd yn darparu amgylchedd delfrydol ar gyfer ehangu mentrau ymchwil genomeg ledled Cymru. Bydd gan wahanol sefydliadau fynediad at offer ac adnoddau datblygedig, gan ysgogi arloesedd a darganfyddiadau ym maes iechyd genomig. 

Bydd y safle’n gartref i ddwy System Dilyniannu Novaseq 6000 maint llawn sy’n cynnwys capasiti dilyniannu cenhedlaeth nesaf (NGS) digynsail, sy’n gallu dilyniannu genomau dynol lluosog mewn llai na 48 awr. Bydd y rhain yn eistedd ochr yn ochr â fflyd o unedau dilyniannu llai ac yn cefnogi Cymru i barhau i wella gwasanaethau ac ymchwil genomeg ac aros ar flaen y gad o ran y chwyldro meddygaeth genomig. 

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein gweithlu dilyniannu, e-bostiwch genomicspartnershipwales@wales.nhs.uk 

Mae genomeg pathogen yn cynnig data y gellir ei integreiddio’n uniongyrchol i ddadansoddiadau a phroses gwneud penderfyniadau iechyd y cyhoedd, gan alluogi gofal iechyd manwl gywir ar yr un pryd. Mae’n ein galluogi felly i gynnig ffordd newydd o weithio – Iechyd y Cyhoedd Manwl, gan integreiddio, mewn amser real, y broses o ddiagnosio a nodweddu pathogenau sy’n heintio unigolion, gydag ymdrechion i atal clefydau a rheoli achosion ar lefel poblogaeth. 

Mae’r tîm genomeg Pathogen yng Nghymru wedi adeiladu platfform dilyniannu a dadansoddi modiwlaidd, sy’n lleihau’r rhwystr i osod a gweithredu gwasanaethau newydd. Wrth i’r angen am ddilyniannu SARS-CoV-2 leihau, mae’r dull modiwlaidd hwn yn rhoi cyfle i gyflwyno gwasanaethau pathogen yn y dyfodol. 

Mae Tîm Addysg ac Ymgysylltu Parc Geneteg Cymru yn darparu portffolio eang o weithgareddau sy’n gysylltiedig â geneteg a genomeg mewn addysg ac ymgysylltiad proffesiynol a chyhoeddus. Mae’r rhaglen yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â chleifion a theuluoedd a’u cynnwys mewn ymchwil, datblygu gwasanaethau a pholisi iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gweithgareddau addysg Parc Geneteg Cymru yn defnyddio arbenigedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a’r GIG, a’r gymuned genomeg ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol. 

Mae’r gweithgareddau craidd yn cynnwys: 

  • Digwyddiadau a gweithgareddau addysg ac ymgysylltu drwy raglenni cyhoeddus ac ysgolion 
  • Cymorth ar gyfer digwyddiadau, mentrau ac ymgyrchoedd, i’r rhai y mae clefydau prin yn effeithio arnynt 
  • Rhwydweithiau ar gyfer pob un o bedwar grŵp rhanddeiliaid allweddol Parc Geneteg Cymru (cleifion, ysgolion, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol) 
  • Datblygiad proffesiynol parhaus mewn geneteg a genomeg i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal iechyd a phroffesiynau cysylltiedig 
  • Mewnbwn cyhoeddus i bolisi Llywodraeth Cymru mewn geneteg a genomeg, gan gynnwys clefydau prin 

Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd Partneriaeth Genomeg Cymru 

Mae Partneriaeth Genomeg Cymru wedi ymrwymo i gynnwys cleifion a’r cyhoedd i helpu i lunio cyfeiriad strategol y gwaith rydym yn ei wneud ac i sicrhau bod cydgynhyrchu yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’n rhaglen. 

O ystyried hyn, mae gennym Fwrdd Seinio sefydledig ar gyfer y Cleifion a’r Cyhoedd yr ymgynghorir â hwy ar amrywiaeth o bynciau ac sy’n parhau i helpu i lunio polisïau sy’n ymwneud â datblygu gwasanaethau, llwybrau gofal, cyfleoedd ymchwil, caniatâd a mwy. 

Mae Aelodau’r Bwrdd Seinio, ochr yn ochr â staff ar draws yr holl bartneriaid, wedi ymgynghori ar sawl pwnc mewn perthynas ag agor y ganolfan, gan gynnwys cydraddoldeb iechyd, asesiadau effaith a threfniadau mynediad. Maent wedi bod yn allweddol yn natblygiad y gofod, gan helpu i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion yr holl randdeiliaid. 

Ein partneriaid ar y safle

Gwybodaeth Ddefnyddiol