Cyrraedd Yma

Ar y ffordd 

Mae’r safle wedi’i leoli’n gyfleus oddi ar gyffordd 32 yr M4, lle mae’r hewl yn cysylltu â’r A470. Wrth i chi ddod at gylchfan Coryton, anelwch tuag at Asda a pharhau at Rodfa Longwood. 

Ar drên 

Mae’r safle yn agos at y gorsafoedd canlynol: 

  • Gorsaf Radur sy’n cynnwys gwasanaethau bob hanner awr i’r de o’r Rhondda ac Ynysowen ac i’r gogledd o’r Barri a Chaerdydd 
  • Gorsaf Coryton – terfynfa bresennol y City Line sy’n ddolen reilffordd o amgylch Caerdydd gyda gwasanaeth wythnosol bob hanner awr (Llun-Sadwrn). Mae’r gwasanaeth hwn yn cysylltu gorsafoedd o’r Eglwys Newydd i Lefel Isel y Mynydd Bychan cyn teithio drwy orsafoedd canolog a gwasanaethu Parc Ninian ar gyfer Treganna/Pontcanna a rhannau o Grangetown, ac yna anelu at y gogledd gan wasanaethu ardaloedd Y Tyllgoed a Danescourt ar y ffordd i Radur. 

Ar fws 

Y safle bws agosaf gyda gwasanaethau rheolaidd yw Gwesty’r Village (10-20 munud ar droed o Cardiff Edge) 

  • 132 Caerdydd – Maerdy drwy’r Eglwys Newydd (bob rhyw 20 munud) 
  • Yn ogystal, mae gwasanaeth llai aml yn stopio yn Asda bob 1.5 awr: G1 Gwaelod – Ysbyty Athrofaol Cymru drwy’r Eglwys Newydd 

 

Canolfan Iechyd Genomig Cymru / Wales Genomic Health Centre 

Parc Busnes Cardiff Edge 

Rhodfa Longwood 

Yr Eglwys Newydd 

CAERDYDD 

CF14 7YU