Ein Partneriaid

Mae partneriaethau newydd a datblygu ymhellach bartneriaethau presennol rhwng gwasanaethau clinigol, academia, diwydiant a chleifion a’r cyhoedd yn hanfodol er mwyn i ni wireddu manteision genomeg er budd meddygaeth fanwl yng Nghymru.

Bydd partneriaethau cadarn ac effeithiol yn prysuro newidiadau, yn cyflymu’u mabwysiadu ac yn gwella canlyniadau o safon i gleifion.

Mae ein partneriaid yn ein cynorthwyo ni â datblygiad gwyddorau bywyd yng Nghymru ac yn galluogi cymryd risgiau a gwneud penderfyniadau ar y cyd i gyflawni’r pum agwedd ar feddygaeth fanwl: rhagweld ac atal clefydau; diagnosisau mwy cywir; ymyriadau targedig a rhai wedi’u haddasu’n bersonol; a mwy o rôl i gleifion ei chwarae.

GPW Partner Diagram

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw gweithrediaeth ddatganoledig Cymru. Ei hagenda yw Cymru sy’n ffyniannus a sicr, iach a gweithgar, uchelgeisiol ac sy’n dysgu, unedig a chysylltiedig

GIG Cymru

Ac yntau’n darparu ei wasanaethau drwy saith bwrdd iechyd a phedair Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru, mae GIG Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal sylfaenol, eilaidd, trydyddol arbenigol a gofal brys. Gwefannau GIG Cymruering its services through seven health boards and four NHS trusts in Wales, NHS Wales provides a range of primary, secondary, specialist tertiary and emergency care services.

Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan

Mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn darparu gwasanaethau labordy genetig a chlinigol genetig arbenigol i unigolion a theuluoedd sydd â chyflyrau genetig prin, neu sy’n pryderu am y rhain.

Uned Genomeg Pathogen

Mae’r Uned hon wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ymchwil i drosi dulliau genomeg academaidd yn ymarfer clinigol, gan gynnwys dadansoddi dilyniannau DNA o samplau o feirws y ffliw.

Parc Geneteg Cymru

Mae’r Uned hon wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ymchwil i drosi dulliau genomeg academaidd yn ymarfer clinigol, gan gynnwys dadansoddi dilyniannau DNA o samplau o feirws y ffliw.

Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru

Mae pob prifysgol yng Nghymru yn bartneriaid allweddol yn y rhaglen o ran cyfleoedd addysg genomeg i’r gweithlu ac ymchwil ac arloesedd ym maes genomeg er budd cleifion

Cleifion a’r Cyhoedd

Cyd-gynhyrchu gwaith Partneriaeth Genomeg Cymru a gwasanaethau meddygaeth fanwl yn y dyfodol yng Nghymru; mae’r cyhoedd yn helpu i lywio’n gwaith ac ychwanegu gwerth i sicrhau bod gofal iechyd ar sail gwerthoedd yn cael ei gyflawni

Partneriaid Strategol

Mae gwaith effeithiol mewn partneriaeth yn hanfodol i ni wireddu buddion meddygaeth fanwl yng Nghymru gan eu bod yn cyflymu newidiadau a’u mabwysiadu, ac yn cynyddu canlyniadau o safon