Llywodraeth Cymru
Gwybodaeth am Lywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru ac mae’n gosod y polisi ar gyfer iechyd a lles.
Mae Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2017 ac a gefnogir gan £6.8m o gyllid y llywodraeth, yn dangos sut bydd technolegau genetig a genomig yn cael eu defnyddio i wella iechyd a gofal iechyd.
Nod y cynllun 5 i 10 mlynedd yw galluogi cleifion a chyhoedd Cymru i elwa o ofal iechyd gwell ac mae’n sylfaen i ddyfodol disglair ar gyfer cymhwyso technolegau genomig o’r radd flaenaf o fewn GIG Cymru.
Datblygwyd y Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl gan weithlu genomeg dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rhanddeiliaid allweddol o academia, diwydiant, y trydydd sector, y GIG a’r cyhoedd. Chwaraeodd cyfres o weithdai a chyfarfodydd ledled Cymru ran hanfodol yn llywio ac yn rhoi sylfaen i ddatblygiad y Strategaeth.

Cyswllt
- www.llyw.cymru
- 0300 060 4400
- @LlywodraethCym
-
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ