Parc Geneteg Cymru
Gwybodaeth am Barc Geneteg Cymru
Ac yntau’n Grŵp Cefnogi Seilwaith a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nod Parc Geneteg Cymru yw cefnogi’r broses o weithredu Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru drwy:
- Hyrwyddo a hwyluso ymchwil iechyd genetig a genomig o ansawdd uchel yng Nghymru.
- Sicrhau bod datblygiadau ym maes geneteg a genomeg yn cael eu trosi’n ddi-dor er mwyn gwella gwasanaethau’r GIG ac i’w masnacheiddio.
- Sicrhau cyfranogiad gwybodus cleifion, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol wrth ddatblygu meddygaeth genomig yng Nghymru.
Mae geneteg yn annatod i sawl maes meddygaeth fodern. Bellach, mae gwybodaeth a thechnolegau genetig, a’u defnydd, yn sylfaen i ddealltwriaeth, diagnosis ac, yn gynyddol, triniaeth clefydau. Mae Parc Geneteg Cymru yn sefydliad allweddol sy’n cefnogi’r maes gwaith hwn yng Nghymru.

Cyswllt
- walesgenepark.cardiff.ac.uk
- walesgenepark@cardiff.ac.uk
- @WalesGenePark
-
Institute of Medical Genetics
Heath Park,
Cardiff,
CF14 4AY