Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn ymroi i ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd er mwyn helpu i lywio cyfeiriad strategol ein gwaith a sicrhau bod cyd-gynhyrchu yn parhau’n rhan annatod o’n rhaglen.
Yn sgil hyn, rydym wedi sefydlu Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd, gan ymgynghori â nhw ar amrywiaeth o bynciau ac maent yn parhau i helpu llywio polisïau ynghylch datblygiad gwasanaethau, llwybrau gofal, cyfleoedd ymchwil, cydsyniad a mwy. Mae’r Bwrdd Seinio’n cynnwys cleifion ac aelodau’r cyhoedd, gyda dau aelod o’r Bwrdd Seinio wedi ymuno â’r Bwrdd Llywodraethu a’r Bwrdd Rhaglenni ers Gorffennaf 2019.