Pecyn Cymorth Genomeg 

Datblygwyd y Pecyn Cymorth Genomeg mewn partneriaeth â Rhaglen Addysg Genomeg Health Education England a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP) i helpu i wella dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o Feddygaeth Genomeg i ategu gofal sylfaenol ac mae’n cynnwys adnoddau hyfforddiant ac awgrymiadau archwilio, ynghyd â darparu cysylltiadau â chanllawiau perthnasol ac adnoddau i gleifion. Gall yr adnoddau gael eu defnyddio fel adnoddau cyfeirio cyflym neu becyn ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, i gyflwyno digwyddiadau addysgol a chodi ymwybyddiaeth, ac i gynorthwyo hyfforddeion i baratoi ar gyfer yr MRCGP.

 

Bwriedir i’r pecyn cymorth hwn gael ei ddefnyddio gan y tîm gofal sylfaenol clinigol cyfan. Mae Datganiad perthnasol yr RCGP ar y Cwricwlwm wedi llywio datblygiad y cynnwys, fel y mae canfyddiadau arolwg Delphi a gynhaliwyd gan HEE a wnaeth amlygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau ym maes Genomeg y mae eu hangen ar y tîm gofal sylfaenol.

Cyd-gynhyrchu

Gwasanaethau Clinigol a Lab

Ymchwil ac Arloesi

Gweithlu

Partneriaethau Strategol