Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Genomeg yng Nghymru

Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol: Genomeg yng Nghymru

Mae Partneriaeth Genomeg Cymru wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer achos busnes i ddatblygu cyfleuster genomeg o’r radd flaenaf gwerth £15.3M ar safle yng ngogledd Caerdydd.

Mae’r penderfyniad pwysig hwn yn cefnogi ymrwymiad Cymru i fuddsoddi mewn ecosystem fywiog o ymchwil feddygaeth fanwl, arloesi a datblygu gwasanaethau cenedlaethol ac mae’n cyflawni amcan buddsoddi allweddol a nodir yn Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru.

Ategwyd gweledigaeth Partneriaeth Genomeg Cymru “gweithio gyda’n gilydd i harneisio potensial genomeg i wella iechyd, cyfoeth a ffyniant pobl Cymru ers tro gan yr ymrwymiad i gydleoli tri sefydliad partner allweddol; Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan; Uned Genomeg Pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru a Pharc Genynnau Cymru, a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd. Mae’r model blaengar hwn yn golygu mai Cymru yw’r Wlad gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i sicrhau y gall genomeg elwa o integreiddio gwirioneddol; rhannu adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd – i sicrhau bod darpariaeth iechyd ac ymchwil genomeg Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn galluogi Cymru i ddenu a chadw’r meddyliau gorau ac i adeiladu seilwaith gwirioneddol wydn a fydd yn cefnogi’r datblygiad cyflym a ragwelir ym maes meddygaeth fanwl yn y blynyddoedd i ddod.

Mae’r datblygiad newydd sy’n gweld adnewyddu adeilad sy’n bod yn barod ym Mharc Gwyddorau Bywyd Caerdydd (Coryton, Caerdydd), wedi’i gyd-gynllunio gan aelodau o staff, cleifion a’r cyhoedd a bydd yn darparu: amgylchedd tawel a chroesawgar i gleifion a’u teuluoedd, labordai rheoli microbiolegol ac ymchwil o’r radd flaenaf, gofod clinigol ar ffurf ystafelloedd ymgynghori, cyfleusterau seminar, gofod swyddfeydd modern ac ardaloedd sy’n hyrwyddo llesiant staff.

Bydd y cyfleuster newydd yn gonglfaen i uchelgais meddygaeth fanwl Cymru, gan sefydlu Cardiff Edge fel amgylchedd cydgynhyrchiol rhwng Diwydiant ac Academia a chyda’r GIG yn ganolbwynt iddo. Bydd hyn yn galluogi canfod clefydau’n gynharach, atal salwch, ymestyn annibyniaeth a gwella mynediad i dreialon clinigol i bobl yng Nghymru.  Bydd hefyd yn dod â budd economaidd i boblogaeth Cymru drwy fuddsoddiad a chreu swyddi.

Uchelgais a phenderfyniad y gymuned genomeg yng Nghymru i wneud rhywbeth gwahanol, beiddgar a chyffrous gyda’i gilydd er budd Cymru, yw’r hyn a fydd yn parhau i greu cyfle, galluogi cydweithio cyffrous a sbarduno llwyddiant yn yr amgylchedd hwn sy’n datblygu’n gyflym.

 

Dwedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Bydd y £15.3m newydd a fuddsoddir yn helpu i gefnogi ffocws cenedlaethol ar wasanaethau newydd, astudiaethau ymchwil newydd a mwy o ryngweithio mewn partneriaeth. 

Mae Cymru wedi sefydlu ei hun ar flaen y gad o ran gwasanaethau ac ymchwil genomeg ac fel llywodraeth rydym yn parhau i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n gwella canlyniadau iechyd, gan gynnwys datblygu profion genetig newydd ar gyfer gwasanaethau canser, Gwasanaeth Genomau Babanod a Phlant Cymru yn ogystal â’r gwasanaeth SARS-CoV-2 sy’n arwain y byd. 

Bydd Partneriaeth Genomeg Cymru yn adeiladu’n sicr ar y gwaith hwn drwy gydleoli disgyblaethau genomeg ar y safle newydd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd y bartneriaeth hon yn ei chyflawni yn y dyfodol.”

 

Dywedodd Len Richards, cyn-Brif Weithredwr Caerdydd a’r Fro ac Uwch Swyddog Cyfrifol GPW*:

“Y weledigaeth gyffrous ac uchelgeisiol yw i Gymru gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel man o bwys ar gyfer meddygaeth fanwl. Drwy greu amgylchedd lle gall ystod o arbenigedd genomeg gydweithio’n rhydd, lle caiff y gweithlu ei feithrin, a lle rhoddir y flaenoriaeth i fuddsoddi mewn ymchwil drosi a thechnoleg newydd, dim ond elwa y gall Cymru o’r potensial ar gyfer datblygiad economaidd ac yn bwysicaf oll, gwasanaethau genomeg o’r radd flaenaf i’n poblogaeth.”

 

Geoff Walsh, Cyfarwyddwr Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Mae gweithio gyda chymaint o bobl ymroddedig o bob rhan o’r Bartneriaeth wedi bod yn ysbrydoledig.  Mae’r datblygiad hwn, sydd wedi bod ar y gweill ers nifer o flynyddoedd, nid yn unig yn cynnig y cyfle i integreiddio arbenigedd genomeg yn wirioneddol ar draws sawl sefydliad, ond hefyd yn sicrhau gallu hanfodol i dyfu a datblygu’r maes gofal iechyd cyffrous hwn”.

 

*I nodi, Stuart Walker, Prif Weithredwr dros dro BIP Caerdydd a’r Fro, sy’n cyflawni rôl y Prif Swyddog Cyfrifol ar sail interim

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading