Dilyniannu 100,000 Covid-19 Genomau ar y Uned Genomeg Pathogenau

Dathlu'r dilyniannu o 100,000 genomau : Uned Genomeg Pathogen

Mae’r Uned Genomeg Pathogen (PenGU) sy’n arwain y byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi llunio dilyniant genom ar gyfer mwy na 100,000 o samplau COVID-19.

Mae’r data sy’n dod o’r broses o ddilyniannu’r samplau yn hanfodol o ran monitro sut y mae’r feirws yn datblygu yng Nghymru, ac i nodi amrywiolynnau newydd a pha effaith y gallent ei chael ar sut y mae’r feirws yn ymddwyn.

Meddai Dr Fu-Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol Gweithredol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r tîm yn PenGU wedi gweithio’n eithriadol o galed dros y pandemig er mwyn darparu gwasanaeth genomeg o’r radd flaenaf i Gymru.  Mae eu gwaith wedi bod yn sail i’r data gwyddonol sydd wedi’u defnyddio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth gynghori cydweithwyr ym maes polisi i helpu i ddiogelu pobl Cymru, ac mae cael cyfran mor uchel o samplau sy’n destun dilyniant genomeg mewn ffordd mor amserol wedi golygu ein bod wedi gallu aros yn wyliadwrus ynghylch amrywiolynnau newydd o COVID ac yn gallu cymryd camau iechyd cyhoeddus cynnar.

Meddai Dr Sally Corden, Pennaeth PenGU:  “Rwy’n hynod falch o’r ffordd y mae pawb yn y tîm wedi gweithio mor gaed i sefydlu, darparu a rhedeg y gwasanaeth hwn.  Mae Cymru yn un o’r gwledydd sy’n arwain y byd ym maes genomeg, ac mae ein gwaith dros y pandemig wedi gwella’r enw da hwnnw.  Hoffwn ddiolch i bawb yn y tîm sydd wedi cyfrannu at gyrraedd y garreg filltir hon, ac edrychwn ymlaen at yr un nesaf.”

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading