Cylchlythyr GPW: Mawrth 2025
Croeso i rifyn mis Mawrth 2025 o gylchlythyr Partneriaeth Genomeg Cymru!
Ers ein diweddariad diwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn cefnogi cam olaf ein proses o symud i Canolfan Iechyd Genomig Cymru, cartref newydd Genomeg yng Nghymru. Gan fod yr holl gydweithwyr wedi setlo yno, roeddem yn meddwl mai hwn fyddai’r cyfle perffaith i’ch cyflwyno i’n Harweinydd Cyfleusterau, Sharon Takata, sy’n sicrhau bod y cyfleuster yn cefnogi anghenion pawb sydd wedi’u lleoli yno. Rydym hefyd yn sgwrsio ag Aelod o’r Bwrdd Seinio, Georgina, ar ei phenodiad diweddar fel aelod Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cleifion a’r Cyhoedd o’n Bwrdd Rhaglen, a’r hyn y mae’n edrych ymlaen ato fwyaf yn ei rôl newydd. Yn ogystal, mae Georgina ac aelodau eraill o’r Bwrdd Seinio, Nat a Melanie, yn rhannu eu profiadau o fyw gyda chyflyrau prin, i nodi Diwrnod Clefydau Prin 2025. Hefyd, mae ein Pennaeth Rhaglen, Michaela John, yn trafod ei hymweliad diweddar â Singapore i ddysgu mwy am brif ffrydio genomeg ac edrychwn ymlaen at rai o’r digwyddiadau sydd ar ddod y byddwn yn eu mynychu a rhannu manylion ar sut y gallwch gymryd rhan.
Fel bob amser, os hoffech roi unrhyw adborth ar gynnwys y cylchlythyr hwn, e-bostiwch GenomicspartnershipWales@wales.nhs.uk