Ymgynghoriad Cynllun Gweithlu Strategol: Dweud eich dweud am ddyfodol genomeg yng Nghymru
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn gofyn am adborth ar gyfres o gamau gweithredu a ddatblygwyd fel rhan o’r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg.
Bydd Genomeg yn chwarae rhan arwyddocaol wrth ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol. Bydd yn helpu pawb i ddeall mwy am salwch a chlefydau ac yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu ymagweddau wedi’u targedu at driniaeth a gofal cleifion.
Bydd eich llais yn siapio Cynllun Strategol y Gweithlu ar gyfer Genomeg, gan baratoi’r ffordd ar gyfer gwell gwasanaethau iechyd cyhoeddus a chanlyniadau i gleifion ledled Cymru.
Mae’r gweithlu genomig arbenigol a gweithlu anarbenigol ehangach GIG Cymru yn gwahoddir i:
- Adolygu’r camau gweithredu drafft ar gyfer y cynllun
- Gwblhau ein holiadur byr (15 munud)
- E-bostio eich sylwadau at heiw.genomics@wales.nhs.uk
- Ymuno â sesiwn gweminar byw yn ystod mis Mai
- Gwahoddwch ni i drafod hyn yn eich cyfarfodydd neu ddigwyddiadau, e-bostiwch heiw.genomics@wales.nhs.uk
- Anfonwch yr e-bost hwn i’ch cydweithwyr er mwyn iddynt gyfrannu hefyd.
Mae’r cam ymgynghori hwn yn cau am hanner nos ddydd Llun 27 Mai 2024.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: Ymgynghoriad Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg nawr yn fyw – AaGIC (gig.cymru)