Ymunwch â'n Bwrdd Seinio - Ceisiadau 2024 nawr ar agor!
Hoffech chi fod yn rhan o gymuned sy’n helpu i lunio dyfodol gofal iechyd yng Nghymru?
Mae ceisiadau i ymuno â’n Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd bellach ar agor ar gyfer 2024!
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion sydd ag ystod o brofiadau i ymuno â’n Bwrdd Seinio! Rydym yn gwybod bod y materion sy’n ymwneud â genomeg yn gymhleth a hoffem weithio gydag aelodau o’r cyhoedd, i’n helpu i lunio dyfodol Genomeg.
Ymunwch â’n Bwrdd Seinio am gyfle i helpu i lunio polisïau, llwybrau gofal ac ymchwil a fydd yn effeithio ar bobl â chlefydau prin neu etifeddol, neu’r rhai sydd angen profion genetig fel rhan o’u gofal iechyd.
Pwy sy’n cael cymryd rhan?
Pobl:
- sydd â phrofiad personol (neu’n gofalu am rywun sydd â phrofiad) o brofion genetig / genomeg / meddygaeth fanwl / treialon clinigol / canser etifeddol / clefydau prin / anhwylderau oedi mewn datblygiad
- sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da
- sy’n gallu cynrychioli grwpiau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol
- nad oes ganddyn nhw brofiad proffesiynol o weithio ym maes genomeg
- sydd ar gael i fynychu hyfforddiant cynefino (rhithwir) ddydd Mawrth 2 Gorffennaf a’r cyfarfod cyntaf ddydd Mercher 3 Gorffennaf
Llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru erbyn 31 Mai, 2024
Edrychwch ar y disgrifiad rôl llawn yma