Ymunwch â'n Bwrdd Seinio - Ceisiadau 2022 nawr ar agor!

Ydych chi am leisio eich barn?
Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion sydd ag ystod o brofiadau i ymuno â’n Bwrdd Seinio! Rydym yn gwybod bod y materion sy’n ymwneud â genomeg yn gymhleth a hoffem weithio gydag aelodau o’r cyhoedd, i’n helpu i lunio dyfodol Genomeg.
Ymunwch â’n Bwrdd Seinio am gyfle i helpu i lunio polisïau, llwybrau gofal ac ymchwil a fydd yn effeithio ar bobl â chlefydau prin neu etifeddol, neu’r rhai sydd angen profion genetig fel rhan o’u gofal iechyd.
Llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru erbyn 31 Mai, 2022.
Edrychwch ar y disgrifiad rôl llawn yma