Ychwanegwch eich llais: Mae ceisiadau i ymuno â Bwrdd Seinio Partneriaeth Genomeg Cymru bellach ar agor ar gyfer 2025

Mae genomeg, sef astudio ein DNA, yn trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru – ac unwaith eto, mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i helpu i lunio ei ddyfodol drwy ymuno â Bwrdd Seinio Partneriaeth Genomeg Cymru ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd.

Mae’r Bwrdd Seinio yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o unigolion gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol ac anuniongyrchol o gyflyrau genetig a phrin a chanserau etifeddol, yn ogystal â’r rhai sydd ag angerdd dros wella gwasanaethau genomig yng Nghymru. Gyda phedair ymgynghoriad yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, rhoddir cyfle i aelodau gymryd rhan mewn deialog ystyrlon, clywed safbwyntiau ffres, a rhannu eu profiadau a’u mewnwelediadau eu hunain i ddylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi, gwasanaethau ac ymchwil.

I rai unigolion, mae’r cymhelliant i gymryd rhan wedi bod yn bersonol iawn

Mae’r aelod presennol Esther yn esbonio ei rhesymau dros ymuno: “Tair blynedd yn ôl, cefais ddiagnosis o ganser y fron lobiwlaidd metastatig, ac yn fuan wedyn, canfuwyd bod gen i fwtaniad genynnol BRCA2. Diolch i brofion genomig, rydw i nawr ar driniaeth wedi’i thargedu na fydd yn fy ngwella, ond a fydd, gobeithio, yn ymestyn fy oes.”

Dywed Esther fod ymuno â’r Bwrdd Seinio wedi bod yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl. “Rydw i wedi gallu rhannu fy mhrofiadau fel claf a chyfrannu at drafodaethau a allai wella canlyniadau i eraill.”

I eraill, mae eu cyfranogiad wedi’i wreiddio mewn chwilfrydedd proffesiynol.

Cafodd Yvonne, a ymunodd bron i ddwy flynedd yn ôl, ei chyflwyno i’r cyfle gyntaf trwy ei rôl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. “Roeddwn i’n llawn cyffro i gael fy newis i ymuno, ac yn edrych ymlaen at y ddwy flynedd ganlynol fel aelod,” meddai. Dechreuodd ei diddordeb mewn geneteg mewn lle annhebygol. “Dechreuodd flynyddoedd lawer yn ôl pan ddes i o hyd i lyfr poced ar DNA am 50 ceiniog – agorodd hynny fyd o ddiddordeb yn ein teulu.”

Dywed Yvonne mai ei hoff ran o fod yn aelod yw’r bobl y mae hi wedi’u cyfarfod. “Mae yna gymysgedd mor wych o bobl, ac mae’r straeon a’r sefyllfaoedd a rannwyd wedi bod yn rhyfeddol ac yn emosiynol iawn. Mae’r Bwrdd Seinio wedi rhoi hwb i mi o ran hyder proffesiynol, ac mae wedi cadw fy ymennydd yn weithgar drwy’r holl bynciau a thrafodaethau sy’n ysgogi’r meddwl.”

Ymunodd Emily â’r Bwrdd Seinio ar ôl colli ei merch i gyflwr hynod o brin, yn y gobaith y gallai ei phrofiad helpu eraill. “Nid oedd ei gofal bob amser yn berffaith, ac mae ymuno â’r Bwrdd Seinio wedi fy helpu i droi poen yn bwrpas. Mae wedi bod yn agoriad llygad dysgu sut mae gwasanaethau genomig yn esblygu, ac rydw i wedi gallu cyfrannu mewn ffordd sy’n anrhydeddu ei chof.”

Mae aelodau’r Bwrdd Seintio yn cyfarfod ar-lein ac wyneb yn wyneb i drafod materion allweddol fel profi, ymchwil, mynediad at ddata, a thegwch gofal iechyd. Mae’r sesiynau hyn yn cynnig llwyfan ar gyfer dysgu, effaith a chysylltu.

“Cwrdd ag eiriolwyr cleifion eraill yw un o’r rhannau gorau,” meddai Esther. “Mae pawb yn dod â rhywbeth gwahanol i’r bwrdd. Rydw i wedi dysgu llawer o’r ymgynghoriadau ac o’r straeon mae pobl yn eu rhannu.”

Mae Bwrdd Seinio GPW ar hyn o bryd yn chwilio am aelodau newydd o bob cwr o Gymru, o bob cefndir. P’un a oes gennych brofiad uniongyrchol o gyflwr genetig neu brin neu ganser etifeddol, yn gofalu am rywun sydd â’r cyflwr, neu os ydych chi, yn syml, eisiau cefnogi dull mwy cynhwysol a gwybodus o ddarparu gofal iechyd genomig, croesewir eich cyfraniad yn fawr.

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â’r Bwrdd Seinio ac i gofrestru eich diddordeb, ewch i: Ymunwch â’r Bwrdd Seinio.

Helpwch ni i lunio dyfodol genomeg yng Nghymru – mae eich llais o bwys.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading