Search
Close this search box.

Gwerthuso gallu Nyrsio a Bydwreigiaeth

Untitled design (21)

Diolch am roi o’ch amser i ddod i’r safle hwn i lenwi’r holiadur ar-lein. Mae eich barn yn bwysig i ni a bydd yn helpu llywio gwaith Partneriaeth Genomeg Cymru yn ymwneud ag addysg a hyfforddiant genomeg i chi a’ch cydweithwyr, er lles y bobl yn eich gofal. Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy fenter y Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl

Genomeg yw astudio strwythur a swyddogaeth yr holl ddeunydd genetig yn y genom dynol, a’r rhyngweithio rhwng genynnau a’r amgylchedd. Mae gofal iechyd genomig yn golygu defnyddio gwybodaeth a thechnolegau genomig ar unrhyw gam o’r continwwm gofal iechyd er mwyn pennu risg a rhagdueddiad ar gyfer clefydau, diagnosis a phrognosis, a llywio’r ffordd o ddewis a blaenoriaethu opsiynau therapiwtig. Mae gofal iechyd genomig hefyd yn ystyried goblygiadau moesegol, seicolegol a chymdeithasol posibl gwybodaeth genomig a chymhwyso technolegau genomig.

Mae’r holiadur hwn yn edrych ar eich canfyddiad chi o genomeg ar hyn o bryd yn eich ymarfer proffesiynol fel nyrs neu fydwraig, a’i nod yw amlygu beth allai eich anghenion hyfforddiant fod yn y maes hwn. Rydym yn gwybod y bydd rhai nyrsys a bydwragedd eisoes yn siarad gydag unigolion a theuluoedd am opsiynau sgrinio, profi a/neu driniaeth sy’n ymwneud â genomeg, ac/neu sy’n darparu gofal i unigolion sydd â naill ai diagnosis genetig neu risg uwch o gyflwr wedi’i etifeddu. Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn cydnabod nad yw llawer o nyrsys a bydwragedd yn gwneud hyn eto, ac efallai eu bod yn anghyfarwydd â sut mae genomeg yn debygol o gael ei ymgorffori yn eu maes ymarfer. Rydym yn gobeithio y bydd trawstoriad o’r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth yn cymryd rhan yn yr astudiaeth hon er mwyn ein galluogi i gofnodi rhywfaint o’r amrywiaeth hon.

Mae eich cyfraniad yn wirfoddol a, thrwy gyflwyno eich ymatebion, ystyrir eich bod yn rhoi eich cydsyniad i gymryd rhan. Peidiwch â phoeni, ni fyddwch yn gallu cael eich adnabod trwy’r atebion rydych yn eu rhoi. Byddwn yn rhoi opsiwn i chi ar ddiwedd yr arolwg i ddarparu eich enw a’ch cyfeiriad e-bost rhag ofn yr hoffech dderbyn diweddariadau yn ymwneud â gwaith y Bartneriaeth (gan gynnwys eu gweithgareddau addysg a hyfforddiant) a/neu gael eich cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill taleb gwerth £100. Fodd bynnag, bydd eich enw a’ch cyfeiriad e-bost yn cael eu gwahanu oddi wrth eich ymatebion i’r arolwg hwn cyn dadansoddi’r data. Byddwch yn gallu tynnu yn ôl o’r arolwg os byddwch yn cysylltu â thîm yr arolwg cyn gwneud y data’n ddienw.

Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon ar gael yn Nhaflen Wybodaeth y Prosiect.

Rydym yn amcangyfrif y bydd yr holiadur yn cymryd tua 10-15 munud i’w lenwi.  Bydd eich atebion yn cael eu cyflwyno pan fyddwch chi wedi clicio Gorffen  ar ddiwedd yr arolwg.

Mae’r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, Prifysgol De Cymru, wedi cymeradwyo moeseg yr ymchwil hwn [19ET1101LR]. Nid oes angen cymeradwyaeth moeseg y GIG.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading