Ride for Rare 2024- Timau geneteg ar draws y DU ac Iwerddon yn codi dros £12000 i helpu unigolion â chlefyd prin!

Ddydd Sul 15 Medi cychwynnodd bron i gant o weithwyr proffesiynol geneteg o bob rhan o’r DU ac Iwerddon ar nifer o deithiau beic, gydag un grŵp beiciau modur, i godi arian ar gyfer elusennau sy’n cefnogi’r rhai sy’n byw gyda chlefydau prin, ac mor belled maent wedi codi dros £12000. Mae Ride for Rare, a gwblhawyd ddiwethaf yn 2013, wedi cael ei ailgychwyn dros ddeng mlynedd yn ddiweddarach gan Karenza Evans, Cwnselydd Genetig yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), gyda chefnogaeth amhrisiadwy Flora Joseph, sydd hefyd yn Gwnselydd Genetig i AWMGS. Gwnaeth y beicwyr deithio rhwng cyfleusterau genetig, a gwnaeth eraill ddilyn llwybrau cylchol; yr oedd rhai ohonynt yn cynnig bryniau heriol iawn. Roedd y llwybrau’n cynnwys Braemar i Aberdeen, Boyne Valley i Lakelands Greenway, Iwerddon, Caergrawnt, Caerdydd i Fryste, Glasgow i Gaeredin, Llundain i Brighton, Manceinion i Lerpwl, Nottingham, Southampton i Salisbury a theithiodd tîm beic modur ar draws Salisbury White Horses. Trwy gydol y dydd, roedd pob tîm yn annog ei gilydd trwy bostio amseroedd cychwyn a lluniau o’r timau ar hyd y ffordd; a’r cyfan er mwyn codi arian ar gyfer SWAN UK (Syndromes Without a Name), yr unig rwydwaith cymorth pwrpasol yn y DU ar gyfer teuluoedd y mae cyflyrau genetig heb eu diagnosio yn effeithio arnynt – cyflyrau mor brin nad oes hyd yn oed enw iddynt yn aml, a Unique, sy’n darparu cefnogaeth hanfodol, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio i deuluoedd y mae anhwylderau cromosom a genynnau prin yn effeithio arnynt. Mae’r cydweithio rhyfeddol hwn yn enghraifft o’r ymdeimlad cryf o gymuned ymhlith gweithwyr proffesiynol ym maes geneteg ledled y DU ac Iwerddon, y maent i gyd yn unedig yn eu hymrwymiad i sicrhau bod cleifion â chlefydau prin yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth o effaith clefydau prin, sy’n effeithio ar tua 3 miliwn o bobl yn y DU, gan amlygu’r angen i wella mynediad at ofal i’r cleifion hyn a’u teuluoedd. Hoffai AWMGS ddiolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i drefnu’r ymdrech hon ac i’r rhai a gymerodd ran i godi cymaint o arian ar gyfer yr elusennau amhrisiadwy hyn. Os hoffai unrhyw un arall gyfrannu, gallwch wneud hynny drwy wefan GiveWheel.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading