Rhowch eich barn ar Gynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg Cymru

Rydym bellach wedi ymestyn y dyddiad cau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG roi eu hadborth ar Gynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg Cymru, sydd bellach ar agor tan 21 Mai.

Mae gan ffarmacogenomeg—yr astudiaeth o sut mae amrywiadau genetig yn dylanwadu ar ymateb i feddyginiaethau—y potensial i drawsnewid y modd y darperir gofal iechyd ledled Cymru. Trwy alluogi triniaethau mwy personol, gall ffarmacogenomeg helpu i wella canlyniadau cleifion a lleihau’r risg o adweithiau niweidiol i gyffuriau.

Bydd y cynllun cyflawni 3 blynedd arfaethedig yn nodi camau gweithredu clir i gefnogi ‘r broses o fabwysiadu ffarmacogenomeg o fewn GIG Cymru. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu’r seilwaith angenrheidiol, cefnogi datblygiad y gweithlu, ymgorffori ymchwil ac arloesi, ac integreiddio ffarmacogenomeg mewn ymarfer clinigol rheolaidd.

Mae NPGG yn gwahodd safbwyntiau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid i ddeall sut y gall ffarmacogenomeg effeithio ar arfer presennol ac yn y dyfodol ledled Cymru.

Bydd yr adborth a ddarperir drwy’r arolwg byr hwn yn chwarae rhan bwysig wrth lywio datblygiad y Cynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg.

Cwblhewch yr arolwg yma:

Bydd yr arolwg yn parhau ar agor tan 30 Ebrill 2025.

Cwblhewch yr arolwg yma: Cynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading