QuicDNA: Buddsoddiad mawr mewn rhaglen arloesol i gyflymu diagnosis o ganser yng Nghymru

Bydd buddsoddiad sylweddol o £2.52 miliwn yn cyflymu’r defnydd o dechnoleg biopsi hylif arloesol sy’n dadansoddi DNA canser o sampl gwaed, gan gefnogi penderfyniadau triniaeth cyflymach a mwy personol.

Bydd y cyllid, gan gynnwys £1.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £1.3 miliwn gan Swyddfa Gwyddorau Bywyd y DU, yn cefnogi cam nesaf rhaglen QuicDNA, a elwir yn QuicDNA Max. Yn ogystal â hyn, mae’r rhaglen biopsi hylif newydd wedi denu rhoddion grant gan bedwar cwmni ffarmacogenomig.

Mae QuicDNA, a oedd yn canolbwyntio i ddechrau ar roi diagnosis o ganser yr ysgyfaint, yn defnyddio techneg o’r enw profion DNA tiwmor sy’n cylchredeg (ctDNA). Pan fydd celloedd canser yn tyfu, maent yn rhyddhau darnau bach o DNA i’r llif gwaed. Trwy ddadansoddi’r darnau hyn o sampl gwaed, mae meddygon yn nodi ei gyfansoddiad genetig ac yn dewis y driniaeth fwyaf effeithiol. Mae’r dull hwn yn llawer llai mewnwthiol na biopsiau meinwe traddodiadol. Mae data cynnar yn dangos triniaeth gyflymach i gleifion na gyda’r llwybr diagnostig biopsi meinwe, gan dynnu sylw at botensial trawsnewidiol y dull hwn.

Bydd QuicDNA Max nawr yn ehangu profion ctDNA i fathau eraill o ganser ac yn ei gyflwyno ar draws holl fyrddau iechyd Cymru. Bydd hefyd yn cefnogi recriwtio staff arbenigol ac yn ymgorffori profion genomig yng ngofal rheolaidd y GIG.

Cefnogwyd yr astudiaeth QuicDNA gychwynnol, dan arweiniad Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, gan ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Cymru, Canolfan Ymchwil Treialon Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a thimau Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel noddwyr, Gwasanaeth Canser Felindre, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, partner diwydiant Illumina,  nifer o gwmnïau fferyllol, y Moondance Cancer Initiative a’r eiriolwr cleifion Craig Maxwell.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: “Mae rhaglen QuicDNA Max yn enghraifft wych o sut y gellir cynyddu ymchwil a arweinir yma yng Nghymru i fynd i’r afael â chanserau eraill, gan arwain at ddiagnosis cynharach ac o bosibl triniaethau cyflymach a mwy personol.  Rwy’n falch bod ymchwil a wneir yma yng Nghymru yn denu cyllid ychwanegol er budd pawb.”

 

Dywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, yr Arglwydd Vallance: “Mae diagnosis cynnar yn hanfodol ar gyfer trin canser, a gall wneud gwahaniaeth enfawr i ganlyniadau cleifion.

“Gallai’r gwaith addawol hwn ar brofion gwaed helpu i deilwra triniaethau cleifion canser yn well iddynt, yn gynt, a heb yr angen am biopsiau mewnwthiol. Mae’n enghraifft wych o sut rydyn ni’n cefnogi ymchwil feddygol allai wneud gwahaniaeth ystyrlon i gleifion y GIG yng Nghymru.”

Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Rhaglen QuicDNA: “Mae’r buddsoddiad hwn yn newid rhagorol i ofal canser yng Nghymru. Bydd yn caniatáu inni gynyddu’r defnydd o brofion ctDNA y tu hwnt i ganser yr ysgyfaint, recriwtio’r gweithlu arbenigol sydd ei angen arnom, ac ymgorffori technolegau genomig arloesol ar draws yr holl fwrdd iechyd. Drwy wneud hyn, gallwn roi diagnosis o ganser yn gynt, personoli triniaethau, a rhoi mynediad i gleifion ledled Cymru at y gorau mewn gofal arloesol.”

Mae’r rhaglen yn cefnogi Cenhadaeth Iechyd Llywodraeth y DU i leihau’r nifer o fywydau sy’n cael eu colli i ganser a’i Chenhadaeth Twf i roi hwb i gyfleoedd economaidd mewn diagnosteg a genomeg, fel y nodir yng Nghynllun y Sector Gwyddorau Bywyd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading