Proffil Cydweithiwr : Sharon Takata
“Fel yr Arweinydd Cyfleusterau, rwy’n ymrwymedig i sicrhau diogelwch, ymarferoldeb ac effeithlonrwydd ein gweithrediadau safle. Mae fy nghyfrifoldebau pennaf yn cynnwys rheoli diogelwch a cheisiadau cynnal a chadw, cysylltu â thimau ystadau a chontractwyr ar draws gwahanol ddisgyblaethau, a sicrhau bod yr holl anghenion sy’n gysylltiedig â chyfleusterau yn cael sylw prydlon ac effeithiol.
“Mae cydweithredu wrth wraidd fy rôl, gan fy mod yn gweithio’n agos gyda thimau iechyd a diogelwch i ddatblygu a gweithredu prosesau sy’n gwella gweithrediadau safle tra’n blaenoriaethu lles staff ac ymwelwyr. Un o feysydd pwysicaf fy ngwaith yw gyrru mentrau sy’n cefnogi taith y safle tuag at fwy o annibyniaeth, gan sicrhau bod systemau, prosesau a chyfleusterau wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y presennol a’r dyfodol.
“Trwy gynllunio strategol a datrys problemau ymarferol, fy nod yw creu amgylchedd diogel, cynaliadwy, wedi’i gynnal a’i gadw’n dda sy’n cefnogi rhagoriaeth weithredol a nodau sefydliadol tymor hir. “
Gan fod yr holl gydweithwyr bellach wedi symud i Ganolfan Iechyd Genomig Cymru yn Coryton, roeddem yn credu y byddai hwn yn gyfle gwych i sgwrsio â Sharon, yr Arweinydd Cyfleusterau ar gyfer y safle. Mae Sharon yn goruchwylio rhedeg y safle, gan sicrhau ei fod yn ddiogel, yn gweithio ac yn effeithlon i’r holl staff sydd wedi’u lleoli yno. Clywsom gan Sharon am yr amrywiaeth yn ei rôl a sut mae cydweithio’n ffactor sylfaenol wrth sicrhau llwyddiant.
Ers faint rydych chi wedi bod yn gweithio yn y rôl?
Rwyf wedi bod yn y swydd hon am 6 mis yn swyddogol; fodd bynnag, cyn hyn, roeddwn wedi bod yn cefnogi rheolwr y Gyfarwyddiaeth o ran iechyd a diogelwch a chamau gweithredu’n gysylltiedig ag ystadau am 6 mis.
Beth wnaeth eich denu i’r rôl i ddechrau?
Cefais fy nhynnu at y rôl hon oherwydd y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran creu cyfleusterau diogel, effeithlon a chynaliadwy. Roedd y cyfle i weithio’n agos gyda thimau amrywiol ac arwain mentrau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ymarferoldeb ac annibyniaeth y safle yn arbennig o apelgar. Rwy’n mwynhau rhyngweithio â gwahanol adrannau/sefydliadau yng Nghaerdydd a’r Fro, a chyda chontractwyr, rhanddeiliaid a sefydliadau’r safle.
Sut olwg oedd ar eich gyrfa/addysg hyd at y pwynt hwn?
Mae fy ngyrfa wedi bod yn daith o ddysgu a thyfu’n barhaus. Cyn camu i’r rôl hon, cefais brofiad helaeth yn y gwasanaeth clinigol mewn rôl weithredol fel Swyddog Ysgrifenyddol, cyn symud i’r Tîm Busnes ac yna fe’m secondiwyd i fod yn Rheolwr Gwasanaeth Cynorthwyol, yn GGFCG ac yna Haematoleg. Mae’r cefndir adrannol yn GGFCG a’r perthnasoedd a ffurfiwyd, wedi gosod sylfaen gref ar gyfer y cyfrifoldebau strategol a gweithredol yr wyf yn eu rheoli nawr.
Beth yw eich hoff beth am eich swydd?
Fy hoff ran o’r swydd yw’r amrywiaeth a ddaw yn ei sgil. Boed hynny’n gydweithio â thimau Ystadau, contractwyr, a gweithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch, neu’n datblygu prosesau sy’n hyrwyddo cydweithredu ac annibyniaeth, mae pob dydd yn cynnig her newydd a’r cyfle i gael effaith gadarnhaol.
A oes unrhyw beth penodol yr ydych yn gobeithio ei gyflawni tra byddwch yn y rôl hon?
Nod allweddol i mi yw datblygu a gweithredu prosesau sy’n arwain y safle tuag at fwy o annibyniaeth. Rwyf hefyd yn angerddol am feithrin diwylliant o ddiogelwch a chynaliadwyedd, gan sicrhau bod y safle’n gweithredu mor effeithiol a chyfrifol â phosibl. Gweithio tuag at gymhwyster NEBOSH (Bwrdd Arholi Cenedlaethol mewn Diogelwch Galwedigaethol ac Iechyd) ochr yn ochr â’r dysgu yn y gwaith yn galluogi’r safle i ddod yn enghraifft flaenllaw o sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pobl yng Nghymru a’r staff sy’n eu cefnogi, yn cael profiad cadarnhaol o’r cyfleuster bob dydd.
A oes yna ddarn o gyngor y byddech chi’n ei roi i rywun sy’n dymuno dilyn gyrfa debyg?
Cadw’n hyblyg ac yn agored i ddysgu. Mae rheoli cyfleusterau’n gofyn cydbwyso meddwl strategol â datrys problemau ymarferol, felly gall ennill profiad mewn rolau gweithredol ac mewn arweinyddiaeth fod yn amhrisiadwy. Blaenoriaethu cydweithio bob amser – mae’n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y maes hwn.
Beth rydych chi’n hoffi ei wneud fwyaf y tu allan i’r gwaith?
Y tu allan i’r gwaith, rwy’n mwynhau treulio amser gyda’r teulu, teithio, teithiau cerdded arfordirol, a phan fydd amser yn caniatáu, sesiwn gampfa dda! Mae’r gweithgareddau hyn yn fy helpu i ail-wefru a chynnig persbectifau newydd i’m rôl.
A oes unrhyw beth arall hoffech ei ychwanegu?
Rwy’n falch o fod yn rhan o dîm sy’n gwerthfawrogi arloesi, diogelwch a chynaliadwyedd. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i greu gofod sydd nid yn unig yn diwallu anghenion cyfredol ond sydd hefyd yn gosod y safon ar gyfer twf ac annibyniaeth yn y dyfodol.