Partneriaid genomeg o Gymru yn ymrwymo i weithio gyda chwmni technoleg gwyddoniaeth blaenllaw i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arbenigedd

Mae’r cwmni technoleg gwyddoniaeth blaenllaw, Illumina wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU), i ffurfioli eu haddewid i weithio ochr yn ochr â GIG Cymru i barhau i ddatblygu genomeg gofal ataliol yng Nghymru.

Mae’r cydweithrediad strategol yn dynodi ymrwymiad cadarn i hyrwyddo strategaeth genomeg Llywodraeth Cymru trwy gydweithredu ac arloesi gwell, a bydd yn adeiladu ar amcanion a amlinellir yng Nghynllun Cyflawni Cymru ar Genomeg (2022-2025).

Ar 7 Tachwedd, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles ymweld â Chanolfan Iechyd Genomig Cymru yng Nghaerdydd i gwrdd â phartneriaid sydd wedi llofnodi’r cytundeb cydweithredol a gweld yn uniongyrchol sut mae Cymru yn arwain y ffordd yn y maes hwn.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Illumina, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac wedi ei hwyluso gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Phartneriaeth Genomeg Cymru.

Bydd y cytundeb yn adeiladu ar ymchwil gydweithredol bresennol i ddiagnosteg canser yr ysgyfaint, gyda’r uchelgais o ehangu ymhellach i fathau eraill o ganser, ac i feysydd ehangach o genomeg gyda’r nod o atal, rhoi diagnosis cynharach a darparu triniaethau personol.

Bydd yn cefnogi ymdrechion i gydweithio i wella’r broses o ddatblygu technolegau newydd, dulliau clinigol a thriniaethau, meddyginiaethau, brechlynnau a gwasanaethau i gefnogi gofal ataliol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: “Mae gan y cytundeb ymchwil hwn y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr i ofal canser ataliol ar gyfer cleifion yng Nghymru.

“Ein huchelgais yw i Gymru ddod yn arweinydd byd-eang mewn genomeg ac mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn adlewyrchu ein hymdrechion i fynd ati’n strategol i bartneru talent a dyfeisgarwch cynhenid â diwydiant i helpu i gyflawni hyn a chryfhau ein gwytnwch ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn credu y bydd gweithio gyda’n gilydd yn cyfuno gwybodaeth ac arbenigedd, yn ogystal â gwneud gwell defnydd o’r adnoddau prin sydd ar gael, yn hybu ymchwil i’r sector.”

Dywedodd Suzanne Rankin, Uwch Swyddog Cyfrifol Partneriaeth Genomeg Cymru:

 

“Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i faes meddygaeth genomeg, a chredaf fod cydweithrediad strategol y sefydliadau hyn yn gyfle gwych i Gymru barhau i gryfhau eu safle yn y maes hwn.

 

“Bydd llofnodi’r cytundeb hwn yn cefnogi pob partner i weithio ochr yn ochr â’i gilydd tuag at set o amcanion a rennir, gan wneud y gorau o ofal i gleifion tra’n gwella lles y boblogaeth ehangach.”

 

Dywedodd Mark Robinson, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Illumina, y DU ac Iwerddon, a Gogledd Ewrop:

 

“Mae Illumina wedi ymrwymo i gydweithio i hyrwyddo maes meddygaeth genomeg.

 

“Ein gobaith gyda’r Memorandwm hwn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yw y bydd yn ein galluogi i ymwneud yn ddyfnach â gweithgareddau ymchwil cydweithredol a threialon clinigol sydd â’r potensial i achub bywydau trwy ymgorffori profion genomig o fewn gofal rheolaidd.”

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading