Llwyddiant i Brosiect QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2023

Image shows people gathered together holding an award

Roedd hi’n noson lwyddiannus i QuicDNA yng Ngwobrau Arloesi MediWales. Daeth y rhaglen i’r brig yn y categori ‘GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant ’. Cafodd QuicDNA ei gydnabod am ei ymdrechion i ddod â phartneriaid ym maes diwydiant at ei gilydd i gefnogi’r gwaith o weithredu a gwerthuso technoleg biopsi hylif arloesol ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint ar draws Byrddau Iechyd yng Nghymru.

Mae biopsïau hylif yn cynnwys prawf gwaed i ddarparu dadansoddiad genomig manwl er mwyn llywio triniaethau canser wedi’u targedu. Maen nhw’n ddewis syml ac anymwthiol yn lle biopsïau tiwmor a gellir eu cynnal yn gynnar yn y llwybr diagnostig. Y gobaith yw y byddant yn caniatáu i gleifion ddechrau triniaeth yn gynt. Gallai tystiolaeth a gesglir yn y gwerthusiad hwn olygu y gallai biopsïau hylif ddod yn safon gofal ar gyfer pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.

Mae amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant wedi cefnogi’r prosiect, gan gynnwys technoleg Illumina, Amgen, AstraZeneca, Bayer a Lilly. Ymysg y sefydliadau eraill sy’n rhan o’r fenter draws-sector hon mae Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Moondance Cancer Initiative, nifer o Fyrddau Iechyd Cymru, y Ganolfan Treialon Ymchwil, Llywodraeth Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Roedd y wobr hon yn cydnabod ei ddull arloesol o gydweithio ar draws sectorau a sut mae’n helpu i drawsnewid y GIG a gwella canlyniadau i gleifion.

Bellach yn ei 18fed flwyddyn, mae Gwobrau Arloesi MediWales yn dathlu’r gorau o’r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Maen nhw’n dod ag aelodau o’r diwydiant, y byd academaidd a staff iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd i gydnabod ei gyflawniadau ac i dynnu sylw at effaith arloesi. .

Dywedodd Siân Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Labordy yn AWMGS:

“Rwyf yn hynod ddiolchgar bod y Prosiect QuicDNA wedi cael ei roi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr iechyd ‘GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant’ yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2023. Mae’n anrhydedd mawr i mi fod QuicDNA yn cael ei gydnabod fel hyn.

Mae prosiect QuicDNA yn brosiect gwirioneddol gydweithredol rhwng y GIG, y trydydd sector, y sector fferyllol, diwydiant, y brifysgol a chleifion. Rydym yn ddiolchgar bod y prosiect rydym mor frwdfrydig yn ei gylch hefyd yn un y mae eraill yn gweld gwerth ynddo.  Rydym yn gobeithio bydd y gydnabyddiaeth hon gan Wobrau Arloesi MediWales yn ysbrydoliaeth i eraill ym maes gofal iechyd i gydweithio’n agosach â diwydiant. Rydym yn hynod falch y bydd y prosiect yn galluogi cleifion sydd â chanser yr ysgyfaint i gael triniaethau yn gyflymach yn y dyfodol o fewn y GIG.’

Dywedodd Magda Meissner, Arweinydd Biopsi Hylif Clinigol yn AWMGS:

“Rydw i’n gwerthfawrogi’n fawr y ffaith fod QuicDNA wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Arloesi MediWales. Mae’r prosiect hwn yn dangos sut gall partneriaid o sawl sector gwahanol – gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, y GIG, y trydydd sector, a chleifion – gydweithio’n effeithiol. Nod QuicDNA yw cael effaith gadarnhaol ac ystyrlon ar y gwaith o ddiagnosio a thrin cleifion â chanser yr ysgyfaint, gan wneud yn siŵr eu bod yn cael triniaeth gyflymach a mwy effeithiol.”

 

Dywedodd Mark Robinson, Rheolwr Cyffredinol y DU ac Iwerddon, Illumina:

“Rydym ni yma yn Illumina wrth ein boddau bod astudiaeth QuicDNA wedi cael ei chydnabod unwaith eto am ei dull gwirioneddol gydweithredol o fynd ati yng nghyswllt yr astudiaeth bwysig hon sy’n canolbwyntio ar brofi am ganser yr ysgyfaint drwy ddefnyddio biopsïau hylif. Fel cwmni, rydym wedi ymrwymo i gydweithio i ddatblygu’r maes meddygaeth genomig sydd â’r potensial i achub bywydau drwy wneud profion genomig yn rhan annatod o ofal arferol.”

Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae QuicDNA yn enghraifft wych o sut gall cydweithio ar draws sectorau sbarduno arloesedd hanfodol ar flaen y gad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn ymfalchïo yn ein rôl fel partner yn y prosiect hwn, sydd â’r potensial i gyflymu triniaeth canser i gleifion yng Nghymru ac i wella canlyniadau. Ac wrth gwrs, rydym yn falch iawn o weld y rhaglen yn cael ei chydnabod yng Ngwobrau Arloesi MediWales eleni.”

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading