Gwella Gofal Strôc yng Nghymru drwy Brofion Genomeg

Mae prosiect dichonoldeb newydd wedi’i lansio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, sy’n archwilio effaith defnyddio profion genetig CYP2C19 cyn rhagnodi clopidogrel mewn gofal strôc. Mae hyn yn dilyn canllawiau newydd gan NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal), sy’n argymell profion geneteg ar gyfer pob claf sydd wedi cael strôc neu fân strôc, ac y mae disgwyl iddynt ddechrau triniaeth clopidogrel. Y nod yw lleihau’r risg o strociau pellach, a gwella canlyniadau cleifion trwy lywio dewisiadau triniaeth mwy effeithiol.

Mae profion geneteg CYP2C19 yn chwilio am newidiadau penodol yn y genyn CYP2C19, sy’n effeithio ar sut mae person yn prosesu meddyginiaethau penodol – yn enwedig clopidogrel, cyffur gwrthblatennau a ddefnyddir i helpu i atal clotiau gwaed.

Dechreuodd y profion ym mis Mai eleni ac fe’u harweinir gan Grŵp Ffarmacogenomeg Cenedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Thîm Strôc YAC, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, a’u cefnogi gan Rwydwaith Gweithredu Strôc GIG Cymru.

Mae’r prosiect yn gwerthuso pa mor ymarferol yw cynnwys profion CYP2C19 fel rhan o ofal strôc arferol. Mae’n edrych ar ba mor gyflym y gellir cyflawni canlyniadau, cydlynu effeithiol rhwng labordai a thimau clinigol, a sut mae profion yn effeithio ar ofal cleifion yn gyffredinol. Y nod yw helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn y driniaeth gwrthblatennau fwyaf priodol yn seiliedig ar eu proffil geneteg.

Y tu hwnt i ofal cleifion, mae’r prosiect hefyd yn cefnogi datblygiad staff, trwy dynnu sylw at feysydd lle gallant integreiddio meddygaeth fanwl i ymarfer arferol. Mae’n darparu profiad ymarferol o ddefnyddio profion geneteg i lywio penderfyniadau clinigol, ac yn hyrwyddo cydweithredu ar draws timau amlddisgyblaethol. Bydd y mewnwelediadau a geir o’r prosiect yn cael eu defnyddio i lunio dull tebyg ledled Cymru gyfan, y mae’r Grŵp Ffarmacogenomeg Cenedlaethol a Rhwydwaith Gweithredu Strôc P&I y GIG bellach yn edrych ar ei weithredu ochr yn ochr â phartneriaid eraill y GIG.

Dywedodd Dr Sophie Harding, Fferyllydd Ymgynghorol ar gyfer Genomeg a Ffarmacogenomeg yng Nghymru:

Mae’r gwaith hwn yn cefnogi Cynllun Cyflawni Genomeg Llywodraeth Cymru, sy’n anelu at wneud gwell defnydd o genomeg i wella’r ffordd y defnyddir meddyginiaethau yn y GIG. Bydd hefyd yn cyfrannu at y Cynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg sydd ar ddod, gan nodi’r tair blynedd nesaf o waith i sefydlu gwasanaeth ffarmacogenomeg y GIG ar gyfer Cymru — gan sicrhau mynediad cyfartal at brofion ledled y DU, ac alinio â datblygiadau mewn gwledydd eraill er budd cleifion.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading