Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan yn seiclo dros gyflyrau prin!

Ddydd Sul 15 Medi 2024, bydd timau o weithwyr proffesiynol gofal iechyd a geneteg yn seiclo o Gaerdydd i Fryste i godi arian ar gyfer elusennau sy’n cefnogi pobl â chyflyrau genetig prin.

Yn 2013, bu gweithwyr proffesiynol ym maes geneteg a fu’n ymwneud â’r astudiaeth Deciphering Developmental Disorders yn cymryd rhan mewn taith seiclo elusennol rhwng gwasanaethau genetig cyfagos, i godi arian ar gyfer yr elusennau cyflyrau prin cenedlaethol SWAN UK ac Unique.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan godi dros £11,000, ac felly, 11 mlynedd yn ddiweddarach mae’n cael ei gynnal am yr eildro!

Ddydd Sul 15 Medi 2024, bydd staff geneteg yng Nghaerdydd a’r Fro yn seiclo o’r IMG (campws Ysbyty Athrofaol Cymru) i’r SS Great Britain ym Mryste.

Mae hyn yn rhan o ymdrech genedlaethol, gyda nifer o wasanaethau genetig ar draws y DU yn cymryd rhan, gan gynnwys Llundain, Caerwysg, Caergrawnt, Glasgow, Inverness a Southampton.

Sut i gyfrannu

Ewch i’r wefan yma: Ride For Rare – GiveWheel

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading