Dr Sophie Harding yn dechrau rôl newydd fel Fferyllydd Ymgynghorol Genomeg a Ffarmacogenomeg

Mae Partneriaeth Genomeg Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod Dr Sophie Harding wedi’i phenodi’n Fferyllydd Ymgynghorol Genomeg a Ffarmacogenomeg i Gymru. Ffarmacogenomeg yw’r astudiaeth o eneteg person i ddeall yn well sut y gallant ymateb i feddyginiaeth. Bydd Sophie yn gweithio ar lefel Cymru gyfan tra wedi’i lleoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac yn arwain y fenter genedlaethol sy’n ceisio integreiddio profion ffarmacogenomig yn llwyddiannus ym mhob maes gofal iechyd ledled Cymru.

Yn ei rôl newydd, bydd Sophie yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid clinigol ac academaidd i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:

  • Gweithredu profion ffarmacogenomig o fewn ymarfer clinigol arferol ar draws pob sector
  • Cyhoeddi Cynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg, a fydd yn darparu map ffordd i wreiddio ffarmacogenomeg o fewn ymarfer clinigol arferol
  • Sicrhau bod gan weithlu’r GIG y lefel briodol o wybodaeth ffarmacogenomig i gefnogi a thrin cleifion yng Nghymru
  • Codi ymwybyddiaeth o ffarmacogenomeg ledled Cymru a rhannu datblygiadau o Gymru ar y cyd â gwledydd eraill y DU lle bo modd.

Cafodd Sophie brofiad helaeth, uniongyrchol o ffarmacogenomeg yn ei swydd flaenorol fel fferyllydd rhagnodi canser arbenigol, lle bu’n cymhwyso ymarfer ffarmacogenomig yn ddyddiol wrth ofyn am brofion, adolygu canlyniadau profion a defnyddio’r canlyniadau hyn i lywio penderfyniadau rhagnodi.

Yn y gorffennol mae Sophie wedi cyd-arwain y gwaith o roi profion ffarmacogenomig ar waith yn lleol ac yn genedlaethol yng Nghymru ochr yn ochr ag uwch gydweithwyr amlbroffesiynol, ac mae wedi gweithio’n strategol ar draws y DU o fewn swydd arwain ffarmacogenomig ar gyfer y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol. Yma, bu’n eirioli dros rôl fferylliaeth mewn ffarmacogenomeg a lluniodd ddarlun clir o’r dirwedd genomig ledled y DU, tra hefyd yn datblygu cysylltiadau rhwydweithio rhwng cenhedloedd y DU. Yn fwy diweddar, bu Sophie yn cyd-arwain y gwaith o ddatblygu cynllun gweithlu genomig strategol i Gymru, gyda’r nod o baratoi’r gweithlu ar gyfer gweithredu genomeg o fewn gofal iechyd arferol, gyda ffarmacogenomeg yn cynrychioli elfen allweddol o’r cynllun.

Wrth siarad â Phartneriaeth Genomeg Cymru, dywedodd Sophie:

Rwy’n llawn cymhelliant ac yn ymroddedig i arwain a chynorthwyo’r gwaith o ehangu gwasanaethau profi ffarmacogenomig i bob sector o ofal iechyd. Nod y defnydd o brofion ffarmacogenomig yw darparu triniaethau diogel wedi’u teilwra’n rheolaidd i bob claf ledled Cymru.”

Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu, wrth ein helpu i ddeall effeithiolrwydd meddyginiaeth ar gyfer unigolyn, y gallai ffarmacogenomeg leihau sgil-effeithiau cymaint â 30%.  Mae’r defnydd o brofion ffarmacogenomig arferol o fewn y GIG yn debygol o olygu symud i ffwrdd o’r un dull cyffredinol i bawb presennol tuag at ddull rhagnodi wedi’i deilwra, sy’n fwy diogel ac yn fwy effeithiol i gleifion. Er bod angen mwy o ymchwil, credir bod ffarmacogenomeg yn cynnig llawer o fanteision posibl ychwanegol i wasanaethau’r GIG, megis lleihau derbyniadau i’r ysbyty, lleihau nifer yr ymweliadau ag ysbytai a meddygon teulu, a lleihau gwastraff meddyginiaethau.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading