Claf canser yr ysgyfaint yn dechrau taith feicio o Gaerdydd i Baris i godi arian er mwyn gwella diagnosis i eraill

Ym mis Medi 2022, yn 40 oed, cafodd Craig Maxwell ddiagnosis o fath prin o ganser yr ysgyfaint, EGFR+. Dywedwyd wrth Craig fod y canser Cam 4 wedi lledu i’w esgyrn ac nad oedd gwellhad iddo. Yn wynebu salwch angheuol, dechreuodd ganolbwyntio ar ffyrdd y gallai gyfrannu at wella diagnosis a thriniaeth canser i gleifion eraill ledled Cymru, ac ers hynny mae wedi bod yn cwblhau nifer o heriau corfforol i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer treial Clinigol Biopsi Hylifol QuicDNA.

Heddiw, 24 Gorffennaf, mae Craig yn cychwyn o Gaerdydd ar daith feicio a fydd yn mynd ag ef a’i dîm codi arian yr holl ffordd i Baris, gan deithio tua 320 milltir i’w cyrchfan olaf ddydd Iau 27ain. Drwy wneud hyn, mae’n gobeithio symud yn agosach at ei nod o godi cyfraniad o £300,000 tuag at y treial clinigol arloesol sy’n edrych ar sut y gall defnyddio prawf gwaed biopsi hylifol syml yn gynharach yn y broses ddiagnostig ar gyfer canser yr ysgyfaint wella a chyflymu’r diagnosis, lleihau’r amser rhwng diagnosis a thriniaeth, ac yn y pen draw, lywio sut y gellir defnyddio’r dechnoleg hon ar gyfer mathau eraill o ganser.

Mae’n bosibl cynnal y treial clinigol biopsi hylifol QuicDNA o ganlyniad i Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Illumina Technology, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a nifer o sefydliadau partner. Disgwylir i fiopsi hylifol fel offeryn mewn meddygaeth genomig ddod yn rhan ganolog o ofal iechyd a darparu gwell dealltwriaeth o afiechydon, gwella canlyniadau i gleifion a thrawsnewid bywydau. Yn y dyfodol mae ganddo’r potensial i ddarparu dull syml, hygyrch a dibynadwy o ymchwilio i achosion o ganser a amheuir a defnyddio dull monitro llai ymledol ar gyfer achosion o ganser sy’n dychwelyd.

Mae mwy o wybodaeth am stori Craig ar gael yma

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading