Claf Canser yr Ysgyfaint Craig Maxwell yn cwblhau taith gerdded epig 780 milltir i helpu i wella llwybrau canser yng Nghymru

PHOTO-2024-03-20-13-12-32

Ddydd Sul 10fed Mawrth, gwnaeth Craig Maxwell, sydd â chanser yr ysgyfaint EGFR+ nad oes modd ei drin na gwella ohono, gwblhau ei Her Llwybr Arfordirol anhygoel i godi arian ar gyfer Cronfa Genomeg Teulu Maxwell ar ran Canolfan Ganser Felindre a threial clinigol biopsi hylif QuicDNA. Drwy gydol y daith gerdded, roedd Craig yn cario pêl rygbi gêm Cymru yn erbyn Ffrainc y Chwe Gwlad, ac ar ddiwedd y daith, yng nghwmni ei wraig Tracey a’u dau o blant Isla a Zach, cerddodd i’r cae rygbi lle cododd 71 o gefnogwyr ar eu traed i’w gymeradwyo.

michaela craig

Teithiodd Craig 780 milltir o lwybr arfordir Cymru dros 26 diwrnod fel rhan o’r her. Ymunodd cyfanswm o 600 o gerddwyr ag ef, gyda llu ohonynt yn enwogion gan gynnwys y cyflwynydd teledu Gethin Jones, y digrifwr Rhod Gilbert, y dyn tywydd Derek Brockway a’r cyn chwaraewyr rygbi Sam Warburton, Jamie Roberts a Josh Navidi.  Dewiswyd y pellter o 780 milltir i gynrychioli’r 78 diwrnod a gymerodd i Craig dderbyn ei ddiagnosis o’r adeg y daeth o hyd i’w diwmor a’r 26 diwrnod i gynrychioli’r treial QuicDNA, sy’n anelu at leihau amser diagnosis ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint i uchafswm o 26 diwrnod.

Hefyd yn ymuno â Craig ar gyfer rhannau o’r daith oedd Michaela John, Pennaeth Rhaglenni Partneriaeth Genomeg Cymru, Aelod o’r Bwrdd Seinio Clare Gabriel, a Magda Meissner, Arweinydd Clinigol ar gyfer treial biopsi hylif QuicDNA.

Gyda £877,000 wedi’i godi eisoes, mae’r cyn gyfarwyddwr masnachol i Undeb Rygbi Cymru yn anelu at godi swm aruthrol o £1m ar gyfer Cronfa Teulu Maxwell, cronfa fel rhan o Ganolfan Ganser Felindre, i wella a datblygu’r llwybr canser yng Nghymru.

I ddarganfod mwy am daith codi arian Craig, ewch i Wefan Cronfa Genomeg Teulu Maxwell neu darllenwch fwy am dreial clinigol Biopsi Hylif QuicDNA yma.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading