AWMGS yn codi proffil Treial Clinigol QuicDNA wrth i Gymru chwarae De Affrica
Ddydd Sadwrn 19 Awst, gwahoddwyd cydweithwyr yng Ngwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan i Bencampwriaeth Rygbi Rhyngwladol yr Haf yn Stadiwm Principality, Caerdydd. Gwnaethant dreulio’r amser yn ystod y gêm yn codi arian ar ran Craig Maxwell a’r Treial Clinigol QuicDNA, sydd â’r nod o chwyldroi diagnosis canser yr ysgyfaint yng Nghymru.
Mae Craig, sy’n Brif Swyddog Masnachol ar gyfer Rygbi’r Chwe Gwlad ar hyn o bryd, wedi cael diagnosis o fath prin o ganser yr ysgyfaint, y dywedwyd wrtho ers hynny nad oes modd ei wella. Mae Craig yn gobeithio, trwy godi proffil prosiectau fel hyn, y gall wella diagnosis a thriniaeth ddilynol i eraill sydd hefyd yn byw gyda’r salwch.
Mae’n bosibl cynnal y treial clinigol biopsi hylifol QuicDNA o ganlyniad i Wasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Illumina Technology, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, a nifer o sefydliadau partner. Disgwylir i fiopsi hylifol fel offeryn mewn meddygaeth genomig ddod yn rhan ganolog o ofal iechyd a darparu gwell dealltwriaeth o afiechydon, gwella canlyniadau i gleifion a thrawsnewid bywydau. Mae mwy o wybodaeth am stori Craig ar gael yma