Cylchlythyr GPW: Mai 2026

Croeso i rifyn diweddaraf cylchlythyr Partneriaeth Genomeg Cymru.

Mae misoedd cyntaf 2026 wedi bod yn gyfnod prysur iawn, ond yn hynod gyffrous i’r Rhaglen. Ar ddechrau’r flwyddyn, gwnaethom groesawu ein harweinydd ymchwil Genomeg newydd, Nigel Williams, a fydd yn goruchwylio’r gwaith o weithredu’r Cynllun Ymchwil Strategol ar gyfer Genomeg yng Nghymru. Yn y rhifyn hwn, mae Nigel yn rhannu ei feddyliau ar ei ychydig fisoedd cyntaf yn y swydd.

Yn fwyaf diweddar, ddiwedd mis Ebrill, fe wnaethom gynnal ein Harddangosfa Genomeg wyneb yn wyneb gyntaf erioed yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Daeth y digwyddiad â dros 500 o gynrychiolwyr a 40 o arddangoswyr at ei gilydd i ddathlu arbenigedd genomeg yng Nghymru a’i effaith gynyddol ar gleifion a’r boblogaeth ehangach. Yn y rhifyn hwn, mae rhai o’n trefnwyr a’n mynychwyr yn rhannu yr hyn y mae’r digwyddiad yn ei olygu iddyn nhw.

Yn olaf, wrth i geisiadau agor am gyfnod mis Mai i unigolion ymuno â’n Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd, rydym hefyd yn clywed gan aelodau presennol pam maen nhw wedi dewis ymuno â’r sgwrs.

Fel bob amser, rydym yn croesawu eich adborth. Os hoffech rannu eich barn ar y cylchlythyr hwn, e-bostiwch GenomicspartnershipWales@wales.nhs.uk.

I dderbyn diweddariadau mwy rheolaidd gan raglen Partneriaeth Genomeg Cymru, dilynwch ni ar LinkedIn neu Facebook.

Leave a Reply

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading