Ymgynghoriad y Gaeaf 2025 

Ddydd Iau 16 Ionawr 2025, cyfarfu’r Bwrdd Seinio yn rhithwir trwy Zoom i gymryd rhan yn Ymgynghoriad y Gaeaf. 

Ymgynghorwyd â’r Bwrdd Seinio ar y pynciau canlynol: 

  • Ffarmacogenomeg a’i heffaith bosibl ar ofal cleifion – Dr Sophie Harding (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro)  

  • Ymgysylltu â phobl ifanc mewn genomeg – Emma Hughes (Cynghrair Geneteg/ Parc Geneteg Cymru) 

  • Cynllun Cyflawni Genomeg: 2026 a thu hwnt – Nicholas O’Sullivan (Partneriaeth Genomeg Cymru) 

Diweddariadau gan Fwrdd Rhaglen Partneriaeth Genomeg Cymru 

Arweinwyr y Sesiwn:    Guy Watson, Sarah Milosevic, Cynrychiolwyr Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd (PPIE)  

Cyflwynodd Guy a Sarah y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Rhaglen Partneriaeth Genomeg Cymru, gan ganolbwyntio ar y pwyntiau allweddol canlynol: 

  • Profi Clefydau Prin yng Nghymru:
    Gall gwahaniaethau mewn profion rhwng Cymru a Lloegr achosi camddiagnosis. Bydd Cyfeiriadur Profion Cymru yn cael ei greu er cysondeb, ac mae’r cyllid wedi ei gymeradwyo. 

  • Ymgorffori Genomeg mewn Gofal Iechyd:
    Mae cynlluniau i integreiddio genomeg i ofal iechyd yn cynnwys addysgu staff y GIG, enwebu hyrwyddwyr genomeg, ac ymgysylltu ag uwch arweinwyr.  

  • Gwefan Telling Stories:
    Bydd y wefan “Telling Stories” yn ehangu ei chynnwys i adlewyrchu gofal iechyd genomeg cyfredol a thechnolegau newydd a straeon mwy amrywiol, ac mae cyllid ychwanegol wedi’i gymeradwyo er mwyn datblygu’r wefan. 

Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr Genomeg 

Arweinydd y Sesiwn: Alice Frenken – Rheolwr Prosiectau, Partneriaeth Genomeg Cymru 

Roedd adborth ar y cynnig i ailenwi Rhwydwaith y Cyn-fyfyrwyr i “Hyrwyddwyr Genomeg” yn negyddol i raddau helaeth. Roedd yn well gan aelodau deitlau fel “Cenhadon Genomeg” neu “Tîm Genynnau”. Roedd awgrymiadau ar gyfer cyfranogiad pellach gan Gyn-fyfyrwyr yn cynnwys mentora aelodau newydd o’r Bwrdd Seinio a hyrwyddo genomeg ymhlith y cyhoedd. 

Ymgynghoriad – Ffarmacogenomeg  

 Arweinydd y Sesiwn: Dr Sophie Harding, Fferyllydd Ymgynghorol ar gyfer Genomeg a Ffarmacogenomeg (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro)  Trafododd Sophie botensial ffarmacogenomeg i bersonoli meddygaeth yn seiliedig ar wybodaeth enetig, gan dynnu sylw at ei effaith ar ofal cleifion. 

Rhannwyd y Bwrdd Seinio’n bedwar grŵp trafod gan roi’r atebion canlynol i gwestiynau:   

Grŵp Trafod 1 

 Fel claf:  

  • A fyddech chi eisiau gwybod canlyniad eich prawf clopidogrel ffarmacogenomig, ac a fyddech chi eisiau gwybod cyn cymryd y clopidogrel?   

  • Neu a fyddech chi’n gyffyrddus i rywun gysylltu â chi dim ond os oes newid i’r feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch?  

Roedd gan aelodau wahanol ddewisiadau ar gyfer derbyn canlyniadau profion ffarmacogenomeg ar gyfer clopidogrel, gyda rhai eisiau canlyniadau cyn dechrau triniaeth ac eraill dim ond os oes angen newid eu meddyginiaeth. Ystyriwyd bod proses gydsynio glir a gwybodaeth hygyrch am sgîl-effeithiau yn bwysig i wneud penderfyniadau gwybodus. 

 Grŵp Trafod 2    

Mae lefelau amrywiol o dystiolaeth o safon ar gyfer profi gyda meddyginiaethau eraill sy’n metaboleiddio yn rhannol neu’n llawn gan yr un ensym (â clopidogrel). Felly, gallai rhannu canlyniadau gyda Meddygon Teulu agor cyfle i bresgripsiynwyr newid dosau eich meddyginiaeth arall gan ystyried y canlyniadau ffarmacogenomeg: Beth yw eich barn ar hyn?  

Roedd rhannu canlyniadau profion gyda meddygon teulu yn fuddiol i ofal cleifion, yn enwedig wrth addasu dosau ar gyfer meddyginiaethau eraill. Roedd y pryderon yn cynnwys dealltwriaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ffarmacogenomeg, canfod pob amrywiad geneteg, a’r angen am fwy o wybodaeth am sgîl-effeithiau. 

Grŵp Trafod 3    

Mae’n bwysig sicrhau ein bod yn gweithio tuag at fynediad teg at brofion drwy ddefnyddio dull gweithredu ‘Graddio a Lledaenu’ yn dilyn cam treialu ein gwaith. Bydd gan rai rhanbarthau lle mae camau treialu wedi’u lleoli fynediad yn gynt na rhanbarthau eraill: Beth yw eich barn ar y dull hwn?  

 Pwysleisiwyd mynediad cyfartal i brofion ar draws rhanbarthau, a nodwyd bod gweithredu cynlluniau peilot yn gyson a sicrhau adnoddau digonol yn hanfodol. Roedd pryderon am yr amrywiaeth ar lefel ranbarthol a gwahaniaethau ariannol rhwng byrddau iechyd, er bod cyfyngiadau rhanbarthol ar gynlluniau peilot yn cael eu hystyried yn fuddiol o ran rheoli risg. 

Grŵp Trafod 4    

1) Yn dilyn argymhellion gan Raglen Asesu Diagnosteg y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), mae GIG Lloegr bellach yn cymharu’r profion labordy safonol a fyddai’n cael eu cynnig yn erbyn opsiynau Profion Pwynt Gofal. Beth yw eich barn ar wahanol ddulliau o brofi, o safbwynt claf? Beth yw manteision ac anfanteision hyn yn eich barn chi?  

Gwerthfawrogwyd profion pwynt gofal am ganlyniadau cyflym, ond codwyd pryderon am gywirdeb, profion dilynol a dealltwriaeth cleifion. Trafodwyd cwestiynau am leoliad y profion, trin canlyniadau, ac effeithiau meddyginiaethau, gan dynnu sylw at yr angen am eglurder ar y materion hyn. 

2) Sut i ymgysylltu a chyfathrebu â’r cyhoedd ynghylch fferyllogenomeg a’r cynllun?  

 Dylai gwybodaeth fod yn glir ac yn hygyrch, gan ddefnyddio ffeithluniau ac iaith syml, yn enwedig ar gyfer termau fel “ffarmacogenomeg.” Teilwra negeseuon i wahanol gynulleidfaoedd a chanolbwyntio ar bersbectif y claf, gan dynnu sylw at yr effaith ar eu gofal. Rhannu straeon personol ar sut mae profion pwynt gofal yn gwella canlyniadau. Dylai addysg genomeg ddechrau’n gynnar, mewn dosbarthiadau bioleg yn yr ysgol. Dylai meddygon teulu ymgysylltu’n agored â chleifion am feddyginiaethau, tra gall fferyllwyr gefnogi dealltwriaeth, gan ddefnyddio eu rôl ddibynadwy yn y gymuned. Nodwyd pryderon ynghylch cost a hygyrchedd y cyfryngau cymdeithasol. Gall mannau cymunedol fel llyfrgelloedd a fferyllfeydd helpu i ledu ymwybyddiaeth, ochr yn ochr â sianeli llywodraethu lleol presennol. 

Menter Cynnwys Pobl Ifanc – adborth a thrafodaeth  

Arweinydd y Sesiwn:Emma Hughes, Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu – Cymru (Cynghrair Geneteg y DU/ Parc Geneteg Cymru)  

Arweiniodd Emma sesiwn ar ymgysylltu â phobl ifanc mewn genomeg, gan dynnu sylw at fentrau fel Caffis Genomeg Pobl Ifanc, rhaglenni mewn ysgolion, a chydweithrediadau â Bwrdd Ieuenctid BIP Caerdydd a’r Fro a Senedd Ieuenctid Cymru. Tynnodd Emma sylw at ganlyniadau arolygon a gymerwyd yng Nghaffis Genomeg Pobl Ifanc, a oedd yn amlygu diddordeb mewn ffarmacogenomeg, iechyd y cyhoedd, a phynciau digidol. 

Yn seiliedig ar y wybodaeth hon, cododd y Bwrdd Seinio y pwyntiau canlynol:   

  • Defnyddio cynnwys sy’n briodol i’r oedran wrth ymgysylltu â phlant; gall ffarmacogenomeg fod yn rhy gymhleth i’r rhai dan 12 oed. 

  • Mae moeseg yn bwnc sy’n llawn trafodaethau, yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr TGAU. 

  • Cyfuno genomeg a’r celfyddydau, fel drama neu bodlediad i helpu gydag ymgysylltu. Mae gan Barc Geneteg Cymru brofiad o fentrau o’r fath. 

  • Ystyriwch nod a chynulleidfa y gweithgaredd (e.e. ymwybyddiaeth, gyrfaoedd, cyflyrau geneteg). Os yw’r nod yn addysgol, gallem gasglu adborth gan ysgolion er mwyn datblygu’r adnodd. 

  • Gwneud genomeg yn hygyrch ar bob lefel, gyda ffyrdd o gymryd rhan nad ydynt yn wyddonol. 

  • Datblygu bathodynnau gyda Sgowtiaid a’r Geidiaid. 

  • Targedu digwyddiadau i ddenu’r demograffig cywir. 
  • Gall ymgysylltu â phlant yn llwyddiannus hefyd helpu i gyrraedd mwy o oedolion. 

 Cynllun Cyflawni Genomeg – 2026 a thu hwnt  

 Arweinydd y Sesiwn:Nick O’Sullivan, Rheolwr Rhaglen (PGC) a Jemima Foy, Swyddog Polisi Gwyddor Iechyd (Llywodraeth Cymru)  

 Crynhoodd Nick a Jemima ddatblygiad parhaus y Cynllun Cyflawni Genomeg, gan bwysleisio uchelgeisiau Cymru i barhau i ddefnyddio genomeg i wella canlyniadau cleifion. 

 Roedd y pwyntiau trafod yn cynnwys: 

  • Gweithio gyda gwledydd eraill (y DU ac yn rhyngwladol):Trafodwyd Ymrwymiadau Cyffredin y DU i gydweithio ar draws cenhedloedd i gyflawni nodau Polisi Genomeg y DU, gyda chyfleoedd i ddysgu o arferion gorau rhyngwladol. Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen am ymgysylltiad clir, realistig â’r sector preifat a’r trydydd sector. Pwysleisiwyd cymhellion gan y llywodraeth i feithrin cydweithrediad, gan sicrhau buddion i’r ddwy ochr. Mae Cymru’n cyfrannu llawer o ddata gofal iechyd at y gadwrfa ganolog, gan greu ased gwerthfawr i Gymru, a bydd angen i ni greu cyfeiriad strategol sy’n manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn. 

  • Genomeg yng Nghymru a Lloegr: Mae gwahaniaethau rhwng gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr. Nid yw’n ymwneud â mwy o beiriannau yn unig, ond gwella mynediad at brofion a sicrhau bod staff wedi’u hyfforddi i weinyddu a dehongli canlyniadau. Trafododd yr aelodau gyfateb gallu Lloegr, ond pwysleisiodd y gall canolbwyntio ar glefydau proffil uchel arwain at anwybyddu clefydau eraill. Mae’n well cael polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth gyda blaenoriaethau clinigol clir. Dylai’r Cynllun Cyflawni wedi’i ddiweddaru adeiladu ar gamau gweithredu blaenorol ac amlinellu’r camau nesaf ar gyfer yr uchelgeisiau hyn. 

  • Y broses ymgysylltu ac ymgynghori: Awgrymodd aelodau’r Bwrdd Seinio barhau â’r broses ymgynghori bresennol i gael mwy o fewnbwn ar gyfer y Cynllun Cyflawni wedi’i ddiweddaru. Cynigiwyd sioeau teithiol, gydag aelodau’r Bwrdd Seinio yn ymgysylltu â’r cyhoedd. Nodwyd hefyd bod tair blynedd yn gyfnod byr, felly gallai’r ffocws fod ar dynnu sylw at gynnydd a chyflawniadau ers 2022.