A ydych wedi eich effeithio gan gyflwr prin neu enetig? Ydych chi’n aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am iechyd a genomeg?
Gwybodaeth am y digwyddiad hwn
14 Ionawr 2021, 11am i 12.30pm
Ymunwch â ni ar gyfer Caffi Genomeg Rhithwir! Parc Geneteg Cymru sy’n cynnal y fenter hon ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru. Bydd caffi cyntaf 2021 yn rhoi’r cyfle i ‘gwrdd â’r gweithiwr proffesiynol’ sy’n gweithio ym maes geneteg a genomeg. Bydd cyflwyniadau anffurfiol gan arbenigwyr, gan gynnwys:
Bydd y Caffi Rhithwir yn gyfle hamddenol ac anffurfiol i gwrdd ag eraill a chael gwybod am ddatblygiadau newydd ym maes meddygaeth enomeg yng Nghymru. Bydd hefyd yn gyfle i bobl ddod ynghyd, cael cefnogaeth gan bobl eraill yn eu cymunedau, a rhoi gwybod i ni sut gallwn ni roi cefnogaeth well i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan gyflyrau prin neu enetig.
Mae ymuno â’r caffi drwy Zoom yn RHAD AC AM DDIM, ond bydd angen i chi gofrestru drwy Eventbrite i gael y ddolen a’r cyfarwyddiadau i ymuno (bydd angen i chi greu cyfrif Zoom rhad ac am ddim hefyd).
Cofiwch ddod â phaned a byrbryd i’w mwynhau yn ystod y caffi!
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch walesgenepark@caerdydd.ac.uk
Cewch ragor o fanylion drwy gysylltu â walesgenepark@caerdydd.ac.uk
Partneriaeth Genomeg Cymru © 2020