Confensiwn Rhyngwladol BIO
Rhwng 5 ac 8 Mehefin, byddwn yn arddangos ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yng Nghonfensiwn Rhyngwladol BIO yn Boston, Massachusetts.
Bydd yr arddangosfa yn croesawu dros 14,000 o gynrychiolwyr gan gynnwys arweinwyr biotechnoleg a fferyllol i archwilio cyflwr biotechnoleg heddiw ac yn y dyfodol. Bydd y trafodaethau’n ystyried meysydd fel ffiniau therapiwtig, busnes biotechnoleg, rhagolygon rheoleiddio a pholisi, a chyfalaf dynol
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chymheiriaid diwydiant o bob rhan o’r byd tra byddwn yn arddangos y canlynol
· Datblygiadau gwasanaethau a gweithgareddau ar draws y Bartneriaet
· Meysydd lle rydym wedi cyflawni canlyniadau gwell i gleifion
· Ein cyfleuster genomeg newydd yn Cardiff Edge a’n huchelgeisiau yn y dyfodol ar gyfer y safle.
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael yma