Arddangosfa Genomeg 2021
Beth yw Arddangosfa Genomeg?
Bydd yr arddangosfa’n hyrwyddo genomeg a’i phosibiliadau ynghylch gwella gofal iechyd er lles pobl Cymru. Os
ydych chi’n ymwneud â’r maes hwn, mae’n gyfle delfrydol i gysylltu â chynulleidfa fawr.
Bydd yr arddangosfa’n fyw rhwng 10 a 7 o’r gloch ar 14eg Mai a bydd yr wybodaeth ar gael am y 30 diwrnod canlynol.
Arddangosfa Genomeg 2021
Rhwydweithio
Ystafell gêmau rhyngweithiol
Echdynnu DNA
Cyfres o ddarlithoedd drwy gydol y dydd
Caffi Genomeg - 2 awr yng nghanol y dydd
Dadl Hwyr - Awr ar ddiwedd y dydd
Prif gyntedd
Bydd yn fan cyrraedd i’r ymwelwyr. Bydd hysbysfyrddau ac arwyddion i’r gwahanol elfennau. I’ch helpu i elwa i’r eithaf ar
yr arddangosfa, bydd parth gwybodaeth rhyngweithiol yn cynnig y diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd a’r hyn sy’n dod
nesaf. Bydd desg gymorth i ateb ymholiadau am amryw agweddau’r arddangosfa.
Parth cyhoeddus
Ar agor i bawb
• Cyfres o ddarlithoedd drwy gydol y dydd.
• Caffi Genomeg – 2 awr yng nghanol y dydd
• Dadl Hwyr – Awr ar ddiwedd y dydd
• Man arddangos lle y bydd stondinau grwpiau cleifion, elusennau ac ati ar agor drwy’r dydd.
• Man ‘Clipiau Byrion’ – ffilmiau byrion a lluniau wedi’u hanimeiddio ar amryw bynciau geneteg a genomeg drwy gydol y dydd.
• Darlithoedd gan fudd-ddalwyr pwysig ac amryw sefydliadau eraill.
Parth Rhyngweithio
Bydd y cynnwys yn dibynnu ar allu’r platfform ar-lein.
• Ystafell gêmau rhyngweithiol – cwisiau, posau ac ati.
• Helfa drysor genomeg.
• Echdynnu DNA.
Parth ysgolion
Ar agor i bawb, yn arbennig disgyblion
• Stondinau prifysgolion
• Gwybodaeth am yrfaoedd genomeg
Parth proffesiynolion ac ymchwilwyr iechyd
Dim ond trwy wahoddiad y bydd modd mynd i mewn i’r parth hwn. Dyma’r cynnwys:
• Pedwar neu bum seminar (cyflwyniadau a darlithoedd) yr un pryd.
• Neuadd lle y bydd modd gweld posteri academaidd unrhyw bryd. Bydd cyfle i’r posteri gorau gael eu cyflwyno ar
ffurf darlithoedd, hefyd.
• Man arddangos lle y bydd stondinau rhithwir nifer o gwmnïau drwy gydol y dydd (y rheswm pam nad yw’r rhan hon ar agor
i’r cyhoedd).
Gwybodaeth am y digwyddiad
Mae rhagor am yr arddangosfa a sut mae cymryd rhan ynddi gan Rhys Vaughan: VaughanR4@cardiff.ac.uk
Lawrlwythwch
I ddysgu mwy neu i gofrestru i gofrestru, e-bostiwch: WalesGenePark@cardiff.ac.uk