Search
Close this search box.

Mae ceisiadau bellach ar agor i’r rheiny sy’n dymuno bod yn Hyrwyddwyr Genomeg.

Genomics Champion Cover

Mae ceisiadau bellach ar agor i’r rheiny sy’n dymuno bod yn Hyrwyddwyr Genomeg. Mae hon yn rôl newydd a chyffrous sydd wedi’i hanelu at wella ymwybyddiaeth o genomeg drwy gydol y gweithlu.

Bydd Hyrwyddwyr Genomeg yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth, lledaenu gwybodaeth a helpu i gymathu genomeg ym mhrif ffrwd gofal eu hardaloedd nhw. Mae’r Bartneriaeth yn chwilio am gylch amryfal o broffesiynolion gofal iechyd a hoffai fod yn rhan o chwyldro genomeg ar draws pob maes, bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru. Rydyn ni’n disgwyl mai ar gyfer 12 mis y bydd y penodiad hwn i ddechrau.

Ydych chi’n angerddol dros bŵer Genomeg i chwyldroi triniaeth wedi’i phersonoli ar gyfer cleifion yng Nghymru?

Ydych chi’n gallu rhannu a chyfleu eich gwybodaeth mewn ffordd glir a hygyrch?

Os felly, beth am fod yn Hyrwyddwr Genomeg! Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr mewn genomeg i fod yn hyrwyddwr – y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw mynegi eich diddordeb trwy anfon datganiad personol (dim mwy na 500 gair) a llythyr ategol gan eich rheolwr llinell yn nodi pam rydych chi’n meddwl y byddwch chi’n Hyrwyddwr Genomeg da, at Rebecca Hopes, Arweinydd Hyfforddiant ac Addysg Genomeg (Rebecca.Hopes@wales.nhs.uk). Yna bydd galwad ffôn anffurfiol yn cael ei drefnu.

 

A chithau’n Hyrwyddwr Genomeg, bydd gofyn ichi:  

  • Gymryd rhan mewn rhaglen ymsefydlu, mynychu cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn a chyfrannu trwy gynadledda fideo bob mis (cyfwerth â phum diwrnod y flwyddyn o dan nawdd eich Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd)
  • Codi ymwybyddiaeth o faes genomeg ymhlith eich cydweithwyr yn eich lleoliad clinigol a meithrin cysylltiadau ag amryw adrannau
  • Bod yn ddolen gyswllt i bawb sy’n ymholi am y pwnc yn eich bro
  • Lledaenu gwybodaeth am enomeg ymhlith eich cydweithwyr pan ddaw ar gael
  • Nodi bylchau lle y bydd angen cynnig hyfforddiant genomeg – naill ai’n gyffredinol neu’n benodol – i faes clinigol
  • Rhannu gwybodaeth am enomeg gyda staff i’w helpu i ddeall beth yw genomeg a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw, o ran eu cleifion
  • Helpu i lunio pecynnau cymorth a deunydd addysgol am y pwnc ledled sawl llwyfan i ddiwallu anghenion y gweithlu ehangach
  • Cyfrannu at waith cylch llywio Hyrwyddwyr Genomeg

 

Bydd Hyrwyddwr Genomeg yn:

  • Arwain trwy esiampl ac yn helpu cydweithwyr
  • Cyfathrebu’n effeithiol yn ei fro ac ar draws y sefydliad
  • Ceisio a chasglu adborth cydweithwyr i’w drafod yn ehangach
  • Canmol a hybu genomeg er lles cleifion
  • Creu ffyrdd arloesol o gymathu syniadau newydd ym mhrif ffrwd y gofal beunyddiol
  • Ymaddasu ar fyr rybudd ac yn amlygu hyblygrwydd
  • Dylanwadu ar addysg a gwaith genomeg yn ei fro

 

Gallwn gynnig:

  • Rhaglen ymsefydlu gyflawn
  • Sesiynau DPP yn rheolaidd
  • Rhwydwaith cefnogol o Hyrwyddwyr Genomeg eraill a staff y bartneriaeth
  • Mentor i bob Hyrwyddwr
  • Cyfle i gymryd rhan yng ngwaith ehangach y Strategaeth Genomeg
  • Bathodyn Hyrwyddwr Genomeg

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Rhagfyr 2019.

Discover more from

Subscribe now to keep reading and get access to the full archive.

Continue reading