Galwad atgoffa am gyflwyniadau cynhadledd – Cynhadledd Gweithwyr Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd Cydgysylltiedig 2021

AHA Cymru


Cynhadledd Gweithwyr Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd Cydgysylltiedig 2021

Galwad atgoffa am gyflwyniadau cynhadledd – Cynhadledd Gweithwyr Iechyd a Gwyddonwyr Gofal Iechyd Cydgysylltiedig 2021
Galwad am gyflwyniadau:

Bu cyfoeth o arloesedd yn ystod y pandemig, sydd wedi’i ddathlu’n briodol. Rydym am glywed am waith arloesol yn tynnu sylw at ffyrdd newydd o weithio ac arferion gorau ar draws y proffesiynau gwyddoniaeth gofal iechyd, yr hoffech eu rhannu er mwyn ein helpu i symud ymlaen. Dyma gyfle i arddangos yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni.

Gweler y cyfarwyddiadau yn: https://ahawards.co.uk/wales-abstract/ 

Beth sydd ei angen?
• Crynodebau ar gyfer cyflwyniadau byr wedi’u recordio ymlaen llaw, na fydd yn hwy na 10 munud o hyd gydag uchafswm o 6 sleid.
• Ni ddylai crynodebau fod dros 350 o eiriau.
• Y dyddiad cau ar gyfer crynodebau yw 17.00 dydd Gwener 10 Medi.
• Anfonwch eich crynodebau at Chamberlain Dunn – joy@chamberdunn.co.uk
• Bydd panel sy’n cynnwys aelodau o’r proffesiynau perthnasol (gan gynnwys ein partneriaid AHP) yn llunio rhestr fer o’r crynodebau, a bydd y rhai a ddewisir i’w cyflwyno yn y gynhadledd yn cael eu hysbysu erbyn diwedd mis Medi.