Ymunwch â’n Bwrdd Seinio – Ceisiadau 2024 nawr ar agor!

Ymunwch â'n Bwrdd Seinio - Ceisiadau 2024 nawr ar agor!

Hoffech chi fod yn rhan o gymuned sy’n helpu i lunio dyfodol gofal iechyd yng Nghymru?

Mae ceisiadau i ymuno â’n Bwrdd Seinio Cleifion a’r Cyhoedd bellach ar agor ar gyfer 2024!

Rydym yn awyddus i recriwtio unigolion sydd ag ystod o brofiadau i ymuno â’n Bwrdd Seinio! Rydym yn gwybod bod y materion sy’n ymwneud â genomeg yn gymhleth a hoffem weithio gydag aelodau o’r cyhoedd, i’n helpu i lunio dyfodol Genomeg.

Ymunwch â’n Bwrdd Seinio am gyfle i helpu i lunio polisïau, llwybrau gofal ac ymchwil a fydd yn effeithio ar bobl â chlefydau prin neu etifeddol, neu’r rhai sydd angen profion genetig fel rhan o’u gofal iechyd.

Pwy sy’n cael cymryd rhan?

Pobl:

  • sydd â phrofiad personol (neu’n gofalu am rywun sydd â phrofiad) o brofion genetig / genomeg / meddygaeth fanwl / treialon clinigol / canser etifeddol / clefydau prin / anhwylderau oedi mewn datblygiad
  • sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da
  • sy’n gallu cynrychioli grwpiau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol
  • nad oes ganddyn nhw brofiad proffesiynol o weithio ym maes genomeg
  • sydd ar gael i fynychu hyfforddiant cynefino (rhithwir) ddydd Mawrth 2 Gorffennaf a’r cyfarfod cyntaf ddydd Mercher 3 Gorffennaf

Llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru erbyn 31 Mai, 2024

Edrychwch ar y disgrifiad rôl llawn yma

 

Exit mobile version