Wythnos Gwyddor Gofal Iechyd 2024 – Dewch i gwrdd â’r bobl sy’n llunio dyfodol Genomeg

Mae gwyddor gofal iechyd yn cynnwys 50 o wahanol arbenigeddau, ac mae wedi chwarae rhan ganolog yn y GIG dros y 75 mlynedd diwethaf wrth wneud diagnosis, trin ac atal clefydau yn ein poblogaeth.
Fel un o’r arbenigeddau hyn, mae meddygaeth genomig yn chwyldroi gofal cleifion mewn nifer o feysydd gan gynnwys oncoleg, fferylliaeth, anhwylderau prin, iechyd meddwl a chlefydau heintus.
Mae genomeg yn llywio’r gofal iechyd a ddarperir i gleifion yn gynyddol, ac mae’n fwyfwy tebygol y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws nifer o feysydd yn siarad â chleifion a’u teuluoedd am genomeg.
I ddathlu Wythnos Gwyddor Gofal Iechyd, rydym yn taflu goleuni ar rai o’r gweithwyr gwyddor gofal iechyd anhygoel sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer dyfodol genomeg ac yn helpu i newid gofal iechyd er gwell.
Dyma Joanna…
Wyddonydd Clinigol cyn-gofrestredig- Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Fel Gwyddonydd Clinigol cyn-gofrestredig, mae’n fraint cael chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau profi moleciwlaidd a sytogenetig, gan sicrhau bod pob prawf yn cael ei berfformio, ei ddehongli, a’i adrodd yn gywir ac yn amserol. Mae enghreifftiau o’r profion rwy’n eu cynnal yn cynnwys dadansoddiad NGS ar gyfer malaeneddau hematologig, dadansoddiad meintiol ac ansoddol BCR-ABL1 ar gyfer rhoi diagnosis a monitro dadansoddiad mwtadu CML, JAK2 a CALR ar gyfer rhoi diagnosis o neoplasmau myelo-luosogol, a dadansoddiad FISH. Mae gwybod bod fy ngwaith bob dydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella gofal cleifion yn wirioneddol werth chweil.
Dyma Amalu…
Wyddonydd Clinigol cyn-gofrestredig – Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Helo, fy enw i yw Amalu. Rwy’n gweithio fel Gwyddonydd Clinigol cyn-gofrestredig gyda’r gwasanaeth oncoleg hematolegol yn AWMGS. Rwy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddadansoddi amrywiadau somatig mewn malaeneddau hematolegol. Mae hyn yn helpu’r clinigwyr i ddeall prognosis y clefyd, a phennu’r gofal priodol i’r cleifion. Mae’r dasg hon yn waith ymchwil trwm, ac mae’n cynnwys sgiliau gwneud penderfyniadau i ddosbarthu’r amrywiad yn weithredadwy ai peidio h.y. a yw’n berthnasol i’r afiechyd hwnnw ai peidio. Mae bob amser yn ddiddorol darganfod sut mae’r amrywiadau sy’n bresennol yn y genyn yn effeithio ar ddatblygiad afiechyd, y mecanwaith dan sylw a’r treialon clinigol sy’n digwydd i dargedu’r genyn hwnnw.
Dyma Heather…
Gwyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant – Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Heather ydw i ac rwy’n Wyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant mewn Genomeg. Ar hyn o bryd rydw i ar Raglen Hyfforddi Gwyddonwyr y GIG sydd wedi fy ngalluogi i ymgymryd â sawl cylchdro seiliedig ar waith ac ymgymryd ag ystod o wahanol weithgareddau i ddatblygu fy sgiliau ar gyfer y rôl tra hefyd yn astudio ar gyfer MSc mewn Gwyddor Glinigol. Rwy’n falch iawn o fod yn dilyn gyrfa mewn Genomeg gan ei fod yn faes hynod ddiddorol o feddygaeth gyda datblygiadau cyson sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cleifion. O ran y rhaglen hyfforddi, rwy’n mwynhau’r ffaith fy mod bob amser yn dysgu ac yn cael fy herio’n gyson a bod gennyf lawer o hyblygrwydd i hunangyfeirio llawer o agweddau ar fy hyfforddiant.
Dyma Patrick…
Blwyddyn 1af STP Biowybodeg Glinigol – Genomeg- Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Rwyf wir yn mwynhau fy mlwyddyn gyntaf fel hyfforddai STP Biowybodeg yn AWMGS, yn cylchdroi o amgylch pob adran. Rwy’n cael blas ar y tîm clefyd prin, canser, technegol, biowybodeg a chwnsela genetig i gael y darlun llawn o’r gwasanaeth genomeg. Maen nhw’n buddsoddi ynof i’n fawr, gyda chyfleoedd hyfforddi a chysgodi, ac rwy’n arddangos yr hyn rwy’n ei ddysgu drwy gyflwyno tystiolaeth yn rheolaidd. Cyn bo hir, byddaf yn cadarnhau fy lle yn y tîm biowybodeg ac yn dechrau ysgrifennu cod, ymdrin ag ymholiadau, gweithio ar gronfeydd data ac ati. Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau cyfrannu at waith sy’n anelu at gynorthwyo diagnosis cleifion Cymru.
Dyma Charlotte…
Wyddonydd Clinigol cyn-gofrestredig- Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Rwy’n Wyddonydd Clinigol cyn-gofrestredig mewn genomeg canser, yn gweithio yn yr adran canser teuluol. Gellir rhannu fy rôl yn ddwy brif adran. Y cyntaf yw profi cleifion y mae canser wedi effeithio arnynt i weld a ydyn nhw’n gymwys i gael triniaethau mwy penodol. Os ydynt yn gymwys dangoswyd bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar oroesiad cleifion ac ansawdd bywyd. Y llall yw os oes gan berson dueddiad canser hysbys yn y teulu, eu profi i weld a oes ganddynt hefyd dueddiad i fathau penodol o ganser. Os oes ganddynt dueddiad, gellir cynnig mwy o sgrinio a monitro i’r claf. Os nad oes ganddynt dueddiad, bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i’r claf. Mae fy swydd yn rhoi boddhad mawr i mi ac mae gwybod yr effaith y gallwn ei chael ar gleifion yn fy ysgogi i wneud fy ngorau bob dydd.
Dyma Megan…
Gwyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant – Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Helo, fy enw i yw Megan. Rwy’n Wyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant sy’n arbenigo mewn Genomeg Canser yng Ngwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan. Ar hyn o bryd, rydw i yn fy mlwyddyn gyntaf o’r Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr, yn mwynhau’r her o gydbwyso fy mhortffolio gwaith ag asesiadau prifysgol a llawer o gyfleoedd eraill i ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd. Gyda chefndir mewn ymchwil canser y croen, mae’n rhoi boddhad gallu defnyddio fy ngwybodaeth a’m profiad i gael effaith uniongyrchol ar gleifion yn y rôl newydd hon lle rydym yn dadansoddi cod genetig cleifion â chanser i lywio penderfyniadau triniaeth. Mae gwaith cylchdro diweddar yn y timau Biowybodeg a Histopatholeg wedi fy helpu i ddeall pa mor bwysig yw ein rôl o ran darparu gofal o ansawdd uchel, wedi’i deilwra i gleifion. Byddwn yn argymell gyrfa yn y gwyddorau gofal iechyd yn fawr
Dyma Rokhsana…
Gwyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant – Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan
Fy enw i yw Rokhsana Siddique ac rwy’n gweithio yng Ngwasanaethau Genomeg Meddygol Cymru Gyfan (AWMGS) fel gwyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant. Mae fy rôl felGwyddonydd Clinigol dan Hyfforddiant yn amlochrog ac yn cynnwys ystod eang o weithgareddau gwyddor gofal iechyd uwch gan gynnwys dadansoddi samplau cleifion, dehongli canlyniadau profion ac adrodd. Rwy’n mwynhau gweithio gyda thechnolegau datblygedig, cymhleth fel dilyniannu’r Genhedlaeth Nesaf (NGS) a dadansoddwyr awtomataidd. Mae hwn yn faes sy’n datblygu’n gyflym ac felly mae’n hanfodol cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau diweddar mewn diagnosis a thriniaethau. Mae gwybod bod fy mhroffesiwn yn cael effaith uniongyrchol ar ofal cleifion yn gwneud i mi deimlo’n wirioneddol fodlon a phwrpasol. Rwy’n mwynhau’r daith hon yn fawr ac mae heriau a chyfleoedd newydd bob amser i ddatblygu yn AWMGS!
Dyma Emily…
Biowybodegydd, Uned Genomeg Pathogen – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae gweithio fel biowybodegydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn golygu y gallaf ddefnyddio fy ngwybodaeth fiolegol a’m sgiliau codio i ddarparu gwybodaeth amser real, bwysig i glinigwyr ac epidemiolegwyr. Mae’r wybodaeth hon yn helpu i olrhain lledaeniad micro-organebau sy’n achosi clefydau, yn ogystal â chymorth gyda phenderfyniadau clinigol, megis diagnosis a chynlluniau triniaeth. Mae gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol ochr yn ochr â gwyddonwyr labordy yn PenGU a rhwydweithiau ehangach eraill yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n uniongyrchol o’r sefydliad i’r cyhoedd.
Dyma Sara…
Biowybodegydd, Uned Genomeg Pathogen – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dwi’n fiowybodegydd, maes sy’n cyfuno bioleg a thechnoleg. Rwy’n gweithio yn y maes genomeg mewn gofal iechyd lle, gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, rydym yn archwilio sut y gall deall genomeg pathogenau wella iechyd. I mi, mae’n bwysig cynyddu amrywiaeth y gweithlu i gyflwyno safbwyntiau a ffyrdd newydd o feddwl a gweithio, gan fod hyn yn cyfrannu’n fawr at arloesi. Rwy’n gobeithio y bydd gweld menywod yn cael gyrfaoedd llwyddiannus yn y maes hynod ddiddorol ac effeithiol hwn yn annog mwy o fenywod a merched i ystyried ymuno â ni.