Pennaeth y Rhaglen Michaela John yn ymweld â Singapôr i ddysgu mwy am brif ffrydio genomeg

Pennaeth y Rhaglen Michaela John yn ymweld â Singapôr i ddysgu mwy am brif ffrydio genomeg

Fis diwethaf, teithiodd ein Pennaeth Rhaglen Michaela John i Singapôr i fynychu gweithdy deuddydd ar ‘Prif ffrydio Genomeg ar gyfer Manylrwydd Iechyd Poblogaeth’, ochr yn ochr â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan a Phrifysgol Caerdydd.

Tra bu yno, rhoddodd Michaela gyflwyniad ar y ‘Seilwaith Genomeg ar draws y DU’ a chymryd rhan mewn trafodaethau ar sut y gall y DU a Singapôr gydweithio i rannu cyfleoedd dysgu a datblygu.

Gwahoddwyd fi a nifer o gydweithwyr eraill o Gymru i fynychu gweithdy a gynhaliwyd ar y cyd gan Goleg Gwyddonwyr Clinigwyr Singapôr ac Academi Gwyddorau Meddygol y DU. Roedd y mynychwyr yn cynnwys ymchwilwyr, clinigwyr, llunwyr polisi, rheoleiddwyr, cleifion a diwydiant, o’r DU a Singapôr. Pwrpas y gweithdy oedd archwilio’r heriau a’r rhwystrau presennol i weithredu meddygaeth genomig ar lefel poblogaeth, rhoi cyfle i rwydweithio rhwng mynychwyr a llwyfan i rannu profiadau a gwersi a ddysgwyd. Rhagwelwyd y byddai’r gweithdy yn clustnodi rhestr o’r blaenoriaethau ymchwil a’r camau polisi nesaf i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd a chyfleoedd i gydweithio.

Cawsom groeso gan y trefnwyr a ofynnodd ddau gwestiwn – sut all Singapôr a’r DU ddarparu profion genomig ar lefel y boblogaeth heb waethygu anghydraddoldebau iechyd? A beth yw ystyriaethau moesegol a goblygiadau profion genomig ar lefel poblogaeth?

Roedd y sesiynau gweithdy yn cynnwys cyflwyniad o’r DU a Singapôr ac yna grwpiau trafod gyda phob un â thema a chwestiynau penodol; roedd y rhain yn cynnwys seilwaith genomig (biobanciau, canolfannau profi a data), polisi, mabwysiadu a gweithredu (genomeg clefydau, profion rhaeadru a ffarmacogenomeg), a llywodraethiant a rheoleiddio (gweithlu, rheoleiddio meddygaeth ac asesiadau technoleg). Ond yr elfen fwyaf pwerus o bell ffordd oedd gwreiddio Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (CCC) yn y gweithdy; roedd y prif sesiwn gyntaf yn cynnwys cyflwyniad a roddwyd gan gynrychiolwyr y cleifion yn tynnu sylw at eu huchelgeisiau a’u disgwyliadau. Roedd cael eu persbectif a’u harbenigedd gydol y gweithdy yn amhrisiadwy wrth sicrhau’ bod y ffocws yn cael ei gadw ar ein cleifion ar draws y trafodaethau.

Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi a fydd yn cyfuno’r pwyntiau trafod allweddol o’r gweithdy, gan nodi’r rhwystrau, y blaenoriaethau a’r camau nesaf a nodwyd, gyda’r nod o lywio penderfyniadau polisi ac ymchwil.

Exit mobile version