Ymunwch â ni ar gyfer Gweminar Ffarmacogenomeg: Trawsnewid Gofal Cleifion Trwy Bresgripsiynu Wedi’I Bersonoli | Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026

Ymunwch â ni ar gyfer Gweminar Ffarmacogenomeg: Trawsnewid Gofal Cleifion Trwy Bresgripsiynu Wedi'I Bersonoli | Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026

Sut gallwn ni wneud presgripsiynu yn fwy diogel ac yn fwy personol?

Mae Ffarmacogenomeg yn edrych ar sut y gall ein genynnau effeithio ar y ffordd yr ydym yn ymateb i feddyginiaethau, gan helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi’r driniaeth fwyaf addas ac effeithiol ar gyfer pob claf unigol.

Ymunwch â ni am weminar sy’n archwilio sut y gall ffarmacogenomeg gefnogi presgripsiynu mwy diogel, mwy effeithiol a mwy personol yng Nghymru, yn ogystal â’n gweledigaeth ar gyfer ei integreiddio i ofal iechyd arferol.

Mae’r weminar wedi’i anelu at uwch arweinwyr, comisiynwyr, clinigwyr, presgripsiynwyr, fferyllwyr, ymchwilwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill. Bydd yn nodi lansiad y Cynllun Cyflawni Ffarmacogenomeg newydd i Gymru, y cynllun cyntaf o’i fath yn y DU, ac yn rhoi cyfle i ddysgu mwy am weledigaeth Cymru ar gyfer integreiddio ffarmacogenomeg i ofal iechyd.

Yn ystod y weminar hon, byddwch yn:

  • Dysgu am ffarmacogenomeg, y cyfeiriad strategol ar gyfer ffarmacogenomeg yng Nghymru, a sut mae’n cyd-fynd ag uchelgeisiau ledled y DU.

  • Deall beth mae’r cynllun cyflawni yn ei olygu i sefydliadau gofal iechyd, gweithwyr proffesiynol a chleifion.

  • Clywed am y cynnydd presennol, cyfleoedd yn y dyfodol a’r meysydd ffocws sydd wedi eu cynllunio.

  • Archwilio sut y gall ffarmacogenomeg gefnogi presgripsiynu mwy diogel, mwy effeithiol a mwy personol gan gydweithwyr yng Nghymru:

    • Cadeirydd: Dr Andrew Champion, Cyfarwyddwr Rhaglen, Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan

    • Prif siaradwr: Yr Athro Syr Munir Pirmohamed (Cadeirydd Meddygaeth David Weatherall a Chadeirydd Ffarmacogeneteg y GIG, Prifysgol Lerpwl)

    • Siaradwr: Andrew Evans OBE, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Llywodraeth Cymru

    • Siaradwr: Dr Sophie Harding, Fferyllydd Ymgynghorol ar gyfer Ffarmacogenomeg, GIG Cymru

Manylion y Weminar
  • Dyddiad: Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026

  • Amser: 9:30am – 10:30am  (Gan gynnwys trafodaeth banel fyw a sesiwn Holi ac Ateb gyda’r gynulleidfa)

  • Platfform: Microsoft Teams

  • Cyflwynwch eich cwestiynau ymlaen llaw Cymraeg / Saesneg

  • Cofrestrwch Nawr – Methu mynychu’n fyw? Cofrestrwch beth bynnag a byddwn yn anfon dolen atoch i’r recordiad ar ôl y digwyddiad.

Exit mobile version