
Dyddiad: 19 Tachwedd 2026 | Lleoliad: Venue Cymru
Bydd sgyrsiau o 9.15am tan 4.35pm | Bydd cofrestru ar agor o 8.30am | Bydd y digwyddiad yn dod i ben am 4.35pm
Mae genomeg – yr astudiaeth o DNA cyfan person (yr holl wybodaeth sy’n ei wneud yn unigryw) – yn trawsnewid meddygaeth a gofal iechyd.
P’un a ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol, ymchwilydd, claf, neu aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn y pwnc cyffrous hwn, mae’r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn gyfle i gysylltu ag eraill, rhannu profiadau, ac archwilio sut mae gwyddoniaeth genomig yn newid bywydau.
Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o ddiwrnod deinamig o ddarganfod, dysgu ac ysbrydoliaeth, wrth i Gymru arddangos rhai o’r datblygiadau diweddaraf ym maes genomeg.
Mae’r digwyddiad hwn, yr unig un o’i fath yng Ngogledd Cymru, yn cynnig gofod croesawgar ar gyfer rhannu gwybodaeth, cydweithio ac arloesi. Mae’r rhaglen yn cynnwys sgyrsiau diddorol, trafodaethau panel, a sesiynau rhyngweithiol i bawb eu mwynhau. Bydd mynychwyr yn clywed am ymchwil arloesol, sut mae gwyddoniaeth yn cael ei chymhwyso mewn sefyllfaoedd go iawn, a sut mae genomeg yn llunio dyfodol iechyd a meddygaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r digwyddiad a’r rhaglen wedi’u cynllunio ar y cyd â Bwrdd Seinio Cleifion a Chyhoeddus Partneriaeth Genomeg Cymru, sy’n sicrhau bod lleisiau cleifion wrth wraidd y dydd. Mae wedi’i gynllunio i gynnig gwerth, mewnwelediad ac ysbrydoliaeth i bawb.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
- Sesiynau addysgiadol gan ymchwilwyr genomig blaenllaw a gweithwyr iechyd proffesiynol
- Sgyrsiau cleifion i dynnu sylw at brofiadau byw a’u deall
- Cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a chydweithio
- Sesiynau rhyngweithiol ac ymarferol i’r cyhoedd archwilio gwyddoniaeth genomig yn uniongyrchol