Crynodeb
Mae gan dechnolegau geneteg a genomeg y potensial i chwyldroi meddygaeth ac iechyd y cyhoedd. Mae’r Strategaeth hon yn nodi cynllun Llywodraeth Cymru i greu amgylchedd cynaliadwy, sy’n gystadleuol yn fyd-eang ar gyfer gwaith geneteg a genomeg er mwyn gwella iechyd a darpariaeth gofal iechyd pobl Cymru. Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad o Fwriad (DoF) i yn amlinellu’r egwyddorion allweddol a fyddai’n ategu datblygiad Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl. Ers mis Mawrth, mae’r Tasglu wedi ymgynghori’n eang â rhanddeiliaid drwy gyfres o weithdai, grwpiau ffocws a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, ac mae adborth a sylwadau o’r cyfarfodydd hyn wedi llywio datblygiad y Strategaeth. Mae’r Strategaeth yn amlinellu’r camau gweithredu cychwynnol allweddol, yn rhan o gynllun 5-10 mlynedd, a fydd yn:
- Datblygu gwasanaethau genomeg meddygol ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru a gydnabyddir yn fyd-eang – sy’n arloesol, ymatebol ac wedi’u cysylltu’n dda â’r prif fentrau geneteg a genomeg sy’n datblygu o amgylch y byd.
- Datblygu llwyfannau rhagorol ar gyfer meddygaeth fanwl a gwaith ymchwil mewn genomeg a gydnabyddir yn fyd-eang, gydag arweinyddiaeth a chydgysylltedd Cymru gyfan a chysylltiau cryf â geneteg glinigol.
- Bod yn eangfrydig, a chwilio’n weithredol am bartneriaethau a all gryfhau ymchwil a gwasanaethau genomeg a meddygaeth fanwl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y partneriaethau hynny a fydd yn cyflwyno’r manteision gorau i gleifion.
- Datblygu’r GIG a’r gweithlu ymchwil yng Nghymru, i gydnabod y bydd y buddsoddiad hwn yn cael yr effaith fwyaf ar ein gallu ni i wireddu potensial genomeg a meddygaeth fanwl er budd y claf.