Mae’r datblygiadau mewn genomeg, gwybodeg a dadansoddeg yn cynnig posibilrwydd am driniaethau mwy personol a thargedig ac, yn 2012, cyhoeddodd y DU Brosiect 100,000 Genom.
Nod y prosiect arloesol hwn oedd dilyniannu 100,000 genom cyfan oddi wrth ryw 70,000 o gyfranogwyr â chlefyd prin, eu teuluoedd a phobl â rhai canserau.
Yn 2016, yn rhan o’r nod i ddatblygu Prosiect 100,000 Genom yn fenter ledled y DU, cafodd Llywodraeth Cymru wahoddiad gan Genomics England i ymuno â Phrosiect Genom 100,000.
Caiff Prosiect 100,000 Genom yng Nghymru ei ddefnyddio fel enghraifft wrth integreiddio meddygaeth genomig yn rhan o lwybrau gofal clinigol yng Nghymru, ac mae’n cyd-fynd â Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth